Diweddariad 24/08/18
Yn ddiweddar, mae peirianwyr a daearegwyr Earth Science Partnership (ESP) wedi bod yn rheoli'r gwaith drilio uwchben Capel Pant-teg er mwyn eu galluogi i ddiweddaru a chwblhau'r asesiadau risgiau a pheryglon o ardal tirlithriad Pant-teg yn Ystalyfera yng Ngwm Tawe.
Roedd rig dringo llethrau wedi'i osod uwchben Capel Pant-teg yn ddiweddar; roedd angen y cyfarpar arbenigol oherwydd y topograffi serth ac mae'n un o ychydig yn unig yn y DU sy'n addas ar gyfer y dasg hon oherwydd serthrwydd y llethr a'r heriau iechyd a diogelwch. Mae'n bosib addasu'r rig ar gyfer y newidiadau yn nhopograffi'r tirlithriad er mwyn cael mynediad i'r safle ar hyd llwybrau a gliriwyd gan CBSCNPT.
Bydd creiddiau'r strata a chanlyniadau'r gwaith drilio arbenigol yn galluogi adolygu a dilysu'r asesiadau sydd wedi'u gwneud erbyn hyn ac mae'r rhain wedi cynnwys arolygon LiDAR (gyda sganwyr wedi'u gosod ar ddronau), tyllau turio a thyllau arbrofol a chreu ffynhonnau/gosodiadau monitro.
Mae cymynu coed a gwaith diogelwch hanfodol arall yn ardal y tirlithriad yn parhau i gael ei wneud gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a bydd adroddiad asesu terfynol gan ESP yn cael ei gwblhau tua diwedd 2018/dechrau 2019.
Mae symudiadau tir a thirlithriadau wedi effeithio ar yr ardal ehangach ers o leiaf 1897 ond ym mis Awst 2017, ar ôl i ESP rybuddio bod cyfres o dirlithriadau ym Mhant-teg yn berygl dybryd i fywyd preswylwyr yn Heol Cyfyng, cyflwynodd y cyngor Orchmynion Gwahardd Brys (GGB) a oedd yn golygu bod gofyn i breswylwyr Heol Cyfyng adael eu cartrefi am resymau diogelwch.
Gadawodd y mwyafrif a oedd yn byw mewn cartrefi dan berchnogaeth breifat, gyda chymorth gan y cyngor mewn sawl achos, ond apeliodd pedwar person o dri eiddo yn erbyn camau gweithredu'r cyngor i Dribiwnlys Eiddo Preswyl (RPT) annibynnol Cymru.
Gwrthododd RPT Cymru'r apeliadau hyn; gan gytuno ag arbenigwyr y cyngor ar raddau'r risg a'r ansicrwydd ynghyd â chytuno bod y cyngor wedi profi bod perygl gwirioneddol i breswylwyr oherwydd y tirlithriadau cyfagos. Dywedodd RPT Cymru fod y dystiolaeth arbenigol, ynghyd â'r hyn a gyflwynwyd gan swyddogion CBSCNPT, yn rymus.
O ganlyniad, gwrthododd RPT Cymru ddwy apêl a gyflwynwyd ar y funud olaf yn erbyn ei benderfyniad i gefnogi camau gweithredu'r cyngor gan ddod â'r broses apelio i ben. Deëllir bod un person yn parhau i fyw mewn cartref sydd dan fygythiad tirlithriad ar Heol Cyfyng, sy'n groes i'r Gorchmynion Gwahardd Brys.
Mae'r cyngor bellach yn gwneud cynnydd da gyda'i raglen archwilio cartrefi mewn ardaloedd risg "uchel ac uchel iawn" o ddifrod tirlithriad ar y map diwygiedig o'r risgiau a'r peryglon yn ardal Pant-teg.
Meddai'r Cyng Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Byddwn yn parhau i gyfathrebu â pherchnogion a phreswylwyr tai ym Mhant-teg i sicrhau'r canlyniadau gorau a mwyaf diogel a byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu os bydd problemau ganddynt o ran yswiriant."
"Mae'r gwaith diweddar yn rhan yn unig o'r rhaglen dadansoddi tir gymhleth ac eang iawn mewn ardal sydd wedi dioddef o broblemau daearegol ers sawl degawd.
"Rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad parhaus y gymuned â'r rhaglen archwilio cartrefi a hoffem weld y cydweithrediad hwnnw'n parhau wrth i ni barhau i siarad â phreswylwyr a pherchnogion cartrefi."