Diweddariad 18/04/18
Mae pedwar preswylydd o Heol Cyfyng, Pant Teg, sy'n herio penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i'w symud o'u cartrefi'n dilyn cyfres o dirlithriadau, wedi parhau â'u hapeliadau'r wythnos hon.
Panel o'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl dros Gymru (RPTW) fydd yn gwrando ar apeliadau'r preswylwyr. Dechreuodd y broses o glywed tystiolaeth am yr achos yn ystod gwrandawiad undydd yng Nghaerdydd ar 18 Rhagfyr y llynedd.
Gan fod angen mwy o amser ar y pryd, penderfynodd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl dros Gymru yng Nghaerdydd i ohirio'r apeliadau tan 1 Mawrth eleni nes cynnal gwrandawiad undydd arall yng Nghaerdydd, a oedd hefyd wedi'i ohirio er mwyn i fwy o dystiolaeth gael ei chlywed.
Mae RPTW bellach wedi trefnu dau ddyddiad arall er mwyn parhau i glywed y dystiolaeth sef dydd Mawrth 17 Ebrill, 2018 a dydd Gwener 20 Ebrill, 2018, a disgwylir mai dyma fydd diwrnod olaf y gwrandawiad. Caiff y gwrandawiadau eu clywed unwaith eto gan y panel yng Nghaerdydd.
Mae'r pedwar apeliwr yn herio penderfyniad Castell-nedd Port Talbot i orfodi Gorchymyn Gwaharddiadau Brys (GGB) ar dri eiddo yn Heol Cyfyng nôl ym mis Awst 2017.
Penderfynodd y cyngor gyflwyno Gorchmynion Gwaharddiadau Brys yn dilyn cyngor a dderbyniwyd gan Earth Science Partnership fod "perygl dybryd i fywyd" yn achos y teras o dai o ganlyniad i dirlithradau, gan gynnwys yr eiddo lle mae'r apelwyr yn byw. Mae'r rhan fwyaf o'r rheini a dderbyniodd GGB ym mis Awst 2017 bellach wedi'u symud.