Diweddariad 2/2/2018
Diweddariad 2/2/2018
Cyfarfod cyhoeddus a map risgiau a pheryglon diweddaredig
Mae arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, wedi diolch i bawb a ddaeth i'r cyfarfod cyhoeddus yr wythnos hon i drafod materion hirsefydlog yn ymwneud â thirlithriadau sy'n effeithio ar ardal Pant-teg, yn Ystalyfera.
Daeth tua 150 o bobl i ddigwyddiad nos Lun yn Ysgol Gyfun Ystalyfera i wrando ar Matthew Eynon o Earth Science Partnership (ESP), sef ymgynghorwyr daearegol y cyngor, yn esbonio manylion map o risgiau a pheryglon diweddaredig i'r ardal.
Trwy ddefnyddio arolygon modern ac offer peirianegol sy'n cynnwys sganwyr laser ar ddronau awyrol, mae'r map hwn bellach yn cynnig dealltwriaeth fwy cywir ynghylch lle gallai fod ansefydlogrwydd yn y dyfodol a'r effaith debygol ar ffyrdd ac eiddo.
Mae adroddiadau gan ymgynghorwyr wedi datgan nad oes atebion peirianegol ymarferol i'r tirlithriadau, a gafwyd ers o leiaf y 1890au.
Yn y cyfarfod cyhoeddus, meddai'r Cynghorydd Rob Jones, "Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i gyfarfod cyhoeddus nos Lun. Byddwn yn parhau i gydweithio â'r gymuned hon gan ei bod yn rhan ganolog o gymuned ehangach Castell-nedd Port Talbot."
Rhaglen archwilio'n dechrau
Mae'r map diweddedig o risgiau a pheryglon yn cynnwys nifer o gartrefi sydd mewn ardaloedd o berygl uchel a pherygl uchel iawn (gweler y parthau coch a phinc ar y map diweddaredig) felly mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot bellach yn atgoffa pobl sy'n berchnogion ar eiddo yn yr ardaloedd hyn i gysylltu â'r cyngor er mwyn iddo gwblhau rhaglen o archwiliadau.
Fel a esboniwyd yn y cyfarfod cyhoeddus, bydd hyn yn galluogi'r cyngor i ymgymryd â rhaglen o archwiliadau eiddo o fewn ardal y tirlithriadau. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys archwiliad gweledol o du mewn a thu allan yr eiddo yn unol â'r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS).
Dull gwerthuso ar sail risg yw'r HHSRS sy'n helpu awdurdodau lleol i nodi ac amddiffyn yn erbyn risgiau a pheryglon posib i iechyd a diogelwch o ganlyniad i ddiffygion a nodwyd mewn anheddau.
Cyflwynwyd y system gan y llywodraeth o dan Ddeddf Tai 2004 ac mae'n berthnasol i eiddo preswyl yng Nghymru ac yn Lloegr.
Dylai'r rheiny sydd ag eiddo yn y parthau coch neu binc gysylltu â'r cyngor naill ai drwy ffonio'r llinell gymorth benodol (01639 686288) neu e-bostio pantteg@npt.gov.uk.
Atebir y llinell gymorth yn ystod oriau swyddfa (8.30am – 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 8.30am – 4.30pm ar ddydd Gwener). Bydd peiriant ateb yn recordio unrhyw alwadau a dderbynnir y tu allan i'r oriau hynny. Ymatebir i negeseuon o fewn 24 awr yn ystod yr wythnos waith.
Apeliadau Heol Cyfyng
Gofynnwyd cwestiynau yn ystod y cyfarfod cyhoeddus ynghylch apeliadau gan bedwar person sy'n herio penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i symud preswylwyr o dai ar Heol Cyfyng, Pant-teg, yn dilyn y tirlithriadau.
Dywedwyd yn ystod y cyfarfod bod yr apeliadau wedi'u gohirio gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghaerdydd tan 1 Mawrth eleni.
Mae'r pedwar unigolyn yn herio penderfyniad Castell-nedd Port Talbot i orfodi Gorchymyn Gwaharddiadau Brys (GGB) ar dri eiddo ym mis Awst 2017.
Wedi cychwyn derbyn tystiolaeth mewn gwesty yng Nghaerdydd ar 18 Rhagfyr y llynedd, penderfynwyd gan y tribiwnlys fod angen mwy o amser i glywed yr holl dystiolaeth a phenderfyniad y tribiwnlys oedd gohirio tan fis Mawrth (nid y cyngor).
Cyflwynodd y cyngor Orchmynion Gwaharddiadau Brys yn dilyn cyngor a dderbyniwyd gan Earth Science Partnership fod "perygl dybryd i fywyd" yn achos teras o dai ar Heol Cyfyng, gan gynnwys yr eiddo lle y mae'r apelwyr yn byw.
Mae'r rhan fwyaf o'r rheini a dderbyniodd GGB ym mis Awst 2017 bellach wedi'u symud.