Y Diweddaraf 24/11/2017
Teras â deg cartref ar Heol Cyfyng
Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddaearegol islaw'r tai i berchnogion cartrefi ar Heol Cyfyng, Pant-teg, Ystalyfera, sydd wedi derbyn Gorchmynion Gwahardd Brys yn eu gorfodi i adleoli ar ôl mwy o dirlithriadau.
Bu cyfarfod wyneb yn wyneb dwy awr o hyd rhwng perchnogion, cynrychiolwyr perchnogion, aelodau o grwpiau gweithredu lleol a swyddogion Castell-nedd Port Talbot yn adeilad Ymddiriedolaeth Datblygu Ystalyfera ddydd Mercher.
Yn y cyfarfod, rhyddhawyd manylion y canlyniadau diweddaraf o ddyfrdwll a suddwyd ar Heol Cyfyng, a roddodd gipolwg ar yr amgylchiadau islaw'r cartrefi sy'n destun y Gorchmynion Gwahardd Brys.
Darparodd swyddogion y cyngor doriadau hydredol a chroes o'r tir islaw'r teras i berchnogion. Hefyd, cytunwyd i roi copi o'r adroddiad ategol iddynt pan fydd wedi'i gwblhau gan y dylai gynorthwyo perchnogion wrth ymdrin â'u hyswirwyr.
Gallwch weld deunydd drôn o ardal Heol Cyfyng yma.
Gwaith arolwg coed
Mae adroddiad arolwg coed o'r ardal bellach wedi'i gwblhau a dylid cwblhau'r gwaith o gymynu coed erbyn diwedd mis Rhagfyr 2017.
Er mwyn cymynu nifer o goed, bydd rhan o Heol Cyfyng ar gau. Bydd yn ailagor pan fydd y gwaith cymynu wedi'i gwblhau. Gallwch weld adroddiad yr arolwg coed yma.
Gwaith camlas
Mae gwaith i osod pibell yng Nghamlas Tawe wedi'i gwblhau - gyda'r nod o sicrhau, os bydd mwy o falurion yn cwympo i'r gamlas, na fydd yn arwain at ddadleoli dŵr i'r ystâd ddiwydiannol gyfagos, sydd wedi achosi llifogydd yn y gorffennol.g.
Draeniad
Yn system Godre'r-Graig, mae gwaith llystyfiant ac arolwg wedi'i gwblhau gyda 90% o'r gwaith adnewyddu wedi'i wneud; yn system Heol yr Eglwys, mae gwaith llystyfiant ac arolwg wedi'i gwblhau gyda 50% o'r gwaith adnewyddu wedi'i wneud; ac yn system Pant-teg, mae 90% o'r gwaith llystyfiant ac arolwg wedi'i gwblhau a bydd y gwaith adnewyddu'n dechrau ym mis Rhagfyr.
Hefyd, cynhelir gwaith i gryfhau waliau yn Mount Hill, Pant-teg, ger y gyffordd â Heol yr Eglwys.
Cyfarfod cyhoeddus
Yn olaf, mae'r cyfarfod cyhoeddus nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 29 Ionawr yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a chaiff mwy o fanylion eu cadarnhau maes o law.
Pennwyd dyddiad 29 Ionawr oherwydd erbyn hynny bydd yr awdurdod yn gallu darparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o'r amgylchiadau daearegol yn yr ardal o ganlyniad i waith a wneir gan Earth Science Partnership (ESP), yr ymgynghorwyr daearegol, amgylcheddol a pheirianneg arbenigol.