Y Diweddaraf 20/10/2017
Rydym yn parhau i dderbyn gwybodaeth o arolygon LiDAR (mapio laser 3D) a gynhaliwyd ers mis Awst eleni. Mae trafodaethau a gwaith ar y cyd gydag asiantaethau partner hefyd yn parhau ynghylch problemau yn yr ardal a bydd y cyngor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir ym mis Rhagfyr.
Draenio
Argymhelliad gan Earth Science Partnership oedd gwella cwrs tri draen; un yng Ngodre’r Graig, un yn Heol yr Eglwys a chwrs draen o Gwar-pen-y-graig-arw.
Er bod y rhain ar dir preifat, mae’r cyngor wedi cynnal gwaith clirio a gwella.
Yng Ngodre’r Graig a Heol yr Eglwys, mae llystyfiant a gordyfiant wedi’u clirio a dechreuwyd ar waith cynnal a chadw.
Yng Nghwar-pen-y-graig-arw, hen chwarel tywodfaen, mae gwaith yn mynd rhagddo i glirio llystyfiant a gordyfiant fel y gellir cynnal archwiliad o’r draeniau.
Arolygon Coed
Mae’r rhan fwyaf o’r arolygon coed yn yr ardal berygl bellach wedi’u cwblhau. Dechreuwyd dadansoddi’r arolygon a gwblhawyd a bydd y rhain yn nodi coed sy’n peri risg.
Hoffem ddiolch i’r holl breswylwyr am eu cydweithrediad wrth ddarparu mynediad i’r timau arolygu.
Unwaith bydd canlyniadau’r arolygon wedi’u coladu, byddwn yn eu cyhoeddi ar we-dudalennau Pant-teg www.npt.gov.uk/pantteg