Cystadleuaeth Byddwch yn Rhan o'n Hanes
Trosolwg
Mae ein cymunedau yn gartref i nifer o asedau treftadaeth gan gynnwys:
- 13 carreg filltir
- 10 traphont ddŵr
- 9 cofeb rhyfel
- 3 o odynau calch
- 2 gwt mochyn
- 1 castell
- adeiladau dynodedig a heb eu dynodi o bwys
- tirweddau
- henebion
- parciau
- gerddi
Cystadleuaeth
I ddathlu ein treftadaeth, gallwch fod yn rhan o'n hanes i sicrhau bod ein stori yn parhau i gael ei hadrodd i'n cenedlaethau i ddod.
Os ydych chi'n:
- Diddordeb mewn Diwylliant a Threftadaeth
- 16-25 oed
- Yn byw, astudio neu weithio yng Nghastell-nedd Port Talbot
Yna beth am gystadlu yn ein cystadleuaeth am ddim a dangos beth mae ein treftadaeth yn ei olygu i chi drwy greu:
- cartŵn
- gludwaith
- croesbwyth
- arlunio
- dylunio graffeg
- darlun
- argraffu
- map darluniadol
neu unrhyw ffurf gelfyddydol briodol arall.
Canllawiau
Rhaid i'r ceisiadau fod:
- maint A3 - 297mm x 420mm
- naill ai cyfeiriadedd tirwedd neu bortread
Gall ymgeiswyr ddefnyddio Llinell Amser Ein Treftadaeth (Atodiad A ar y Telerau ac Amodau) at ddibenion cyfeirio os ydynt yn dymuno.
Gwobrau
- ennill Aelodaeth Teulu 12 mis i Cadw
- bydd creadigaeth yr enillydd yn cael ei arddangos yn Stiwdio 40 trwy gydol Gŵyl Celfyddydau a Llenyddiaeth Castell-nedd, a gynhelir rhwng 18 a 22 Hydref 2023
- Bydd y cais buddugol yn cael ei ddigido ac yn ymddangos ar:
-
- Gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Hysbysfwrdd digidol Llyfrgell Castell-nedd
Beth yw Cadw
Mae Cadw yn gweithio i ddiogelu:
- adeiladau hanesyddol
- strwythurau
- tirweddau
- safleoedd treftadaeth Cymru
sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd ymweld â hwy, eu mwynhau a deall eu harwyddocâd.
Sut i gymryd rhan
Argraffwch y ffurflen gais isod a chyflwynwch ynghyd â'ch creadigaeth yn eich Llyfrgell NPTCBC agosaf.
Lawrlwytho
-
Cystadleuaeth Byddwch yn rhan o'n hanes (DOCX 55 KB)
m.Id: 36061
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cystadleuaeth Byddwch yn rhan o'n hanes
mSize: 55 KB
mType: docx
m.Url: /media/18825/cystadleuaeth-byddwch-yn-rhan-on-hanes.docx
Telerau ac Amodau
Am fwy o wybodaeth, gweler Telerau ac Amodau'r gystadleuaeth, gan gynnwys: Atodiad A: Llinell Amser Ein Treftadaeth.
Mae'r gystadleuaeth hon yn rhan o Brosiect Treftadaeth CNPT a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.