Hepgor gwe-lywio

SAFLEOEDD MAWNDIROEDD COLL

Ein safleoedd

Lost Peatlands Sites Battenberg

Ardal Adfer Cynefinoedd (HRA) Cregan

Digwyddiad / Man Cyfarfod Gwirfoddolwyr:

Lleolir HRA Cregan ym mloc coedwig Afan, ar gyrion ardal fferm wynt Pen y Cymoedd, uwchben Glyncorrwg, CNPT. Pan gyrhaeddon ni’r safle i adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o brosiect ‘Nant Cregan’, roedd yr ardal yn cynnwys cymysgedd o goed conwydd a oedd yn dal i sefyll, coed wedi’u torri a’r darnau o gynefin ucheldir a oedd yn weddill.
Gwelwyd sawl newid defnydd ar y safle yn sgîl dylanwad dynol sydd wedi gadael eu hôl ar y cynefin hanesyddol. Mae llystyfiant y mawndir a fu unwaith yn doreithiog bellach wedi’i gyfyngu yn yr ardal adfer cynefinoedd i’r rhannau gwlypaf o’r safle, a heb ymyrraeth bydd y safle yn parhau i ddirywio a cholli carbon.

Cynhaliodd ein hecolegwyr arolwg o’r safle a chymryd cyfanswm o 124 o fesuriadau trwch y mawn yn ogystal â chwblhau arolygon llystyfiant i gasglu gwybodaeth am gyflwr presennol y cynefin a’r adnoddau mawn ar y safle. Mae mwy na hanner y safle yn cynnwys mawn sy’n fwy na 0.5m o ddyfnder ac mae’r mawn dyfnaf yn yr ardal hon oddeutu 2m. Cawsom hyd hefyd i fannau corsiog ardderchog sy’n cynnwys rhai o’n 10 rhywogaeth ar y brig, gan gynnwys llawer o Figwyn a Drosera rotundifolia (gwlithlys dail crwn) yn ogystal â chael hyd i’r Troellwr Mawr ar y safle yn haf 2021.

Trwy adfer yr ardal hon, byddwn ni’n creu hafan i fywyd gwyllt ucheldir Cwm Afan ac yn diogelu’r mawndir a’r bioamrywiaeth arbenigol sy’n perthyn iddo.

Byddwn ni’n cynnal digwyddiadau gwirfoddoli a hyfforddi ar y safle y gallwch ddysgu mwy amdanynt trwy gysylltu â LostPeatlands@npt.gov.uk, neu gallwch gael y newyddion diweddaraf am ein gwaith trwy dderbyn ein llythyr newyddion. Os hoffech weld y safle drosoch eich hun, gallwch gael golwg ar y llwybrau cerdded rydyn ni’n eu hyrwyddo yma.

Ardal Adfer Cynefinoedd Castell y Nos

Lleolir HRA Castell y Nos ar lwyfandir yr ucheldir uwch ben Maerdy, Rhondda Cynon Taf. Mae’r safle, a enwyd ar ôl yr heneb sy’n sefyll ar ysgwydd y dyffryn tua’r gorllewin, yn cynnwys mawn dyfnach nag unrhyw un o’n Hardaloedd Adfer Cynefinoedd eraill, a’r nifer mwyaf o rywogaethau corstir arbenigol yn ystod ein harolygon sylfaenol. Yn ogystal, mae poblogaeth o lygod pengrwn y dŵr ar y safle a byddwn ni’n monitro’r rhain ar hyd y prosiect.  

Fel pob un o’n safleoedd, mae’r hanes hir o ddefnyddio’r tir yn HRA Castell y Nos wedi newid y cynefin yn sylweddol. Molinia caerulea (glaswellt y gweunydd) sydd fwyaf amlwg ar y safle ac mae’r rhywogaethau cors arbenigol sydd mor agos at ein calonnau wedi’u cyfyngu i’r rhannau mwyaf gwlyb a gwastad o’r safle. Bu tanau glaswellt gwyllt ar y safle yn y gorffennol, sydd wedi niweidio’r llystyfiant yno.

Un o nodweddion unigryw yr ardal yw’r olion erydu mawr sydd i’w gweld yn amlwg mewn darluniau o’r awyr. Mae angen gosod argaeau yn y sianeli hyn sy’n fwy sylweddol na’r hyn a ddefnyddir ar ein safleoedd eraill er mwyn dal y dŵr yn ôl a byddwn ni’n gosod y rhain yn ystod digwyddiad cadwraeth ymarferol ar gyfer gwirfoddolwyr y Mawndiroedd Coll, ac yn monitro ôl-effeithiau’r gwaith hwn.

Bydd adfer HRA Castell y Nos yn creu cynefin mawndir gwych ac adnodd gwerthfawr i rywogaethau sy’n byw ar ucheldir y ddau Gwm Rhondda, sy’n cynnwys llygoden bengron y dŵr a’r troellwr mawr. Byddwn ni’n cynnal digwyddiadau gwirfoddoli a hyfforddi ar y safle y gallwch ddysgu mwy amdanynt trwy gysylltu â LostPeatlands@npt.gov.uk, neu gallwch gael y newyddion diweddaraf am ein gwaith trwy dderbyn ein llythyr newyddion. Os hoffech weld y safle drosoch eich hun, gallwch gael golwg ar y llwybrau cerdded rydyn ni’n eu hyrwyddo yma.

Ardal Adfer Cynefinoedd Cwm Saerbren

Lleolir HRA Cwm Saerbren ar y llwyfandir gorllewinol uwch ben Cwm Rhondda Fawr. Mae’r ardal, a enwyd ar ôl y cwm y mae’n edrych drosto, yn cynnwys darnau helaeth o fawndir a oedd wedi’i goedwigo o’r blaen, ynghyd ag ardal gwastraff glo ym mhen gogledd-ddwyreiniol pellaf y safle, sy’n adnodd gwych ar gyfer bioamrywiaeth, gan gynnwys ffyngau ac infertebratau.

Mae hefyd ddarnau o rostir sych a gwlyb ar y safle sy’n cefnogi rhai o’n 10 rhywogaeth ar y brig gan gynnwys y chwilen werdd resog. I’r dwyrain o’r safle, mae SoDdGA Mynydd Tŷ Isaf ac weithiau mae’r adar ysglyfaethus sy’n nythu ar y creigiau uchaf ar ochrau’r cwm i’w gweld.  

Bydd adfer HRA Cwm Saerbren yn creu ardal lle gall bioamrywiaeth ucheldir y ddau Gwm Rhondda ffynnu, ac yn helpu i ddiogelu’r cynefin mawndir ar y safle. Byddwn ni’n cynnal digwyddiadau gwirfoddoli a hyfforddi ar y safle, a gallwch ddysgu mwy amdanynt trwy gysylltu â LostPeatlands@npt.gov.uk, neu gael y newyddion diweddaraf am ein gwaith trwy dderbyn ein llythyr newyddion. Os hoffech weld y safle drosoch eich hun, gallwch gael golwg ar y llwybrau cerdded rydyn ni’n eu hyrwyddo yma.

Ardal Rheoli Cynefinoedd Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Mae ardal rheoli cynefinoedd (ARhC) y fferm wynt yn cynnwys 1500 ha o lwyfandir  ucheldir sy’n ymestyn o Aberdâr i Gastell-nedd gan bontio siroedd Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot. Mae’r ardal yn cynnal brithwaith o blanhigfeydd conifferaidd masnachol sy’n amrywio o ran eu twf ac ardaloedd helaeth lle mae coed wedi’u torri. Rhan ganol yr ARhC fydd yn cael sylw yn ystod prosiect y Mawndiroedd Coll. Gallwch ddarganfod mwy am hyn yma​

Man Gwyllt Cymunedol (CWS) Tomen Cymer

Saif CWS Tomen Cymer ger afon Corrwg, ychydig i’r gogledd o bentref Cymer. Mae’r safle yn frith o gynefinoedd cyforiog eu rhywogaethau sydd wedi ymffurfio ar wastraff glo. Mae yma lecynnau rhostir gwlyb a glaswelltir asidig gwlyb sy’n denu nifer mawr o infertebratau. Mae’r safle’n dilyn afon Corrwg am ryw 1200m ar lethr sy’n wynebu’r de yn bennaf. Fe’i dynodwyd yn safle o bwysigrwydd er cadwraeth natur.

Man Gwyllt Cymunedol (CWS) Glyncorrwg

Saif CWS Glyncorrwg ger pentref Glyncorrwg. Mae’n ddarn bach o dir a oedd wedi’i goedwigo o’r blaen ac sydd bellach yn llawn glaswellt y gweunydd. Mae’r safle ar lethr sy’n wynebu’r gogledd-ddwyrain ac ar yr ochr orllewinol, mae’n ffinio ag ardaloedd coetir conifferaidd. Mae ffordd neu drac yn ffinio â’r safle ar dair ochr, a’r ffin derfynol yw’r ffens sy’n gwahanu’r safle o’r tir preifat i gyfeiriad y gogledd-orllewin. Fe’i dynodwyd yn safle o bwysigrwydd er cadwraeth natur.

Man Gwyllt Cymunedol (CWS) Gwynfi

Mae CWS Gwynfi ger Stryd Gwynfi yn nhref Blaengwynfi. Lleolir y safle ar lethr sy’n wynebu’r de ar y cyfan. Mae’r safle yn frith o laswelltir niwtral ac asidig sych. I gyfeiriad y gogledd, mae’r safle mewn ardal o goedwigaeth gonifferaidd ac yn agos at rai eraill. Fe’i dynodwyd yn safle o bwysigrwydd er cadwraeth natur.

Man Gwyllt Cymunedol (CWS) Blaenrhondda

Mae CWS Blaenrhondda yn cwmpasu copa Pen Pych. Mae ffin yr ardal yn dilyn llwybr crwn i gopa Pen Pych ac yn ôl i faes parcio Pen Pych. Mae’r safle’n cwmpasu amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys coetir llydanddail, planhigfa coetir conifferaidd ar y copa, rhostir, glaswelltir a chreigiau. Ceir dwy raeadr hefyd ar hyd Nant Berw Wion, sef y cwrs dŵr i’r gorllewin o’r CWS. Fe’i dynodwyd yn safle o bwysigrwydd er cadwraeth natur.

Man Gwyllt Cymunedol (CWS) Cwm-parc

Mae GWS Cwm-parc yn arddangos brithwaith o gynefinoedd, sy’n cynnwys ardaloedd o goetir llydanddail a llethrau llawn rhedyn yn ogystal â phlanhigfa coetir conifferaidd. Lleolir CWS Cwm-parc ger ffin ogleddol Cwm-parc a ffin orllewinol Treorci. Fe’i dynodwyd yn safle o bwysigrwydd er cadwraeth natur.

Man Gwyllt Cymunedol (CWS) Hendre’r Mynydd

Saif CWS Hendre’r Mynydd ger ardal rheoli cynefinoedd Pen y Cymoedd, i’r gogledd o dref Blaenrhondda. Mae ganddo gysylltiadau gwych â CWS Blaenrhondda a Maes Parcio Hendre’r Mynydd. Mae’r safle’n cynnwys ardaloedd helaeth o rostir, glaswelltir a sgri creigiog ac mae Nant Garreg Lwyd yn rhannu’r CWS yn ddwy. Fe’i dynodwyd yn safle o bwysigrwydd er cadwraeth natur.