Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Sut wnaethon ni gyrraedd yma a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Datblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Yn ystod 2019-2020, gwnaethom ddiwygio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol gan ystyried amrywiol ganfyddiadau ymchwil cenedlaethol a lleol; y data diweddaraf sydd ar gael i'r Cyngor a materion a godwyd gan grwpiau cydraddoldeb lleol yn ystod cyfarfodydd ein Grŵp Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol (sy'n cynnwys uwch swyddogion y Cyngor, yr heddlu, cynrychiolwyr grwpiau, sefydliadau a chymunedau cydraddoldeb lleol).

Gwnaed ymchwil yn lleol gydag aelodau o'n cymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BME), pobl â phrofiadau o incwm isel, pobl anabl, aelodau o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr a'n cymunedau lleol yn gyffredinol.  Nodwyd nifer o linynnau cyffredin trwy gydol y broses, gan gynnwys troseddau/digwyddiadau casineb, tlodi a rhwystrau wrth gyrchu gwasanaethau, a gafodd eu hymgorffori o ganlyniad i'r amcanion cydraddoldeb.

Roeddem ychydig wythnosau i ffwrdd o gyflwyno'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'n hamcanion cydraddoldeb diwygiedig i'r Cabinet a'i gyhoeddi wedi hynny ym mis Ebrill 2020 pan darodd y pandemig COVID-19 a dechreuwyd ar y cyfnod clo cyntaf. Amharwyd ar yr holl drefniadau adrodd gweithredol a threfnwyd ymateb brys i'r argyfwng cenedlaethol oedd yn datblygu.  Cafodd hyn effaith enfawr ar ddarparu ein gwasanaethau. Caeodd rhai o'n gwasanaethau i gynorthwyo i leihau lledaeniad y clefyd, tra newidiodd gwasanaethau eraill fel y gallai gwasanaethau critigol weithredu'n ddiogel. Yn ogystal, sefydlwyd gwasanaethau newydd i gefnogi ein cymunedau trwy'r argyfwng.

Yng ngoleuni'r sefyllfa genedlaethol ddiwedd mis Mawrth 2020, ataliodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Pobl ddyddiadau cau statudol ar gyfer cyhoeddi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ac amcanion cydraddoldeb tan fis Hydref 2020.

Fodd bynnag, er bod y cyfnod clo wedi gohirio cyhoeddi'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, rhoddodd gyfle hefyd i ailystyried priodoldeb ein hamcanion cydraddoldeb, a'r camau gweithredu arfaethedig, yng ngoleuni effaith coronafeirws ar aelodau o'n cymunedau mwyaf agored i niwed, yn enwedig ar y rheini o'n cymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig. 

Yn gynnar yng nghyfnod yr afiechyd, gwnaethom gydnabod y byddai angen adolygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r amcanion cydraddoldeb i fynd i'r afael â'r effaith yr oedd y pandemig yn ei chael ar ein cymunedau lleol. Daeth yn fwyfwy amlwg wrth i'r wythnosau fynd yn eu blaenau, er bod pob cymuned yn cael ei heffeithio, roedd cymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu heffeithio'n anghymesur; ym materion iechyd, fel cyflogeion allweddol, gyda'r effeithiau difrifol ar gyflogaeth yn ogystal ag addysg hygyrch i blant a phobl ifanc.

Mae lladd ofnadwy George Floyd ar 25 Mai 2020, ynghyd â digwyddiadau eraill yn ein hanes diweddar, yn ogystal â'r effaith ddinistriol y mae'r pandemig wedi'i chael ar gymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig wedi dwyn ffocws craff ar yr agweddau a'r ymddygiadau negyddol dwfn sy'n parhau tuag at bobl o'r cymunedau hyn. O ganlyniad, cydnabuwyd y byddai angen adolygu'r amcanion a'r camau gweithredu cydraddoldeb i sicrhau yr eir i'r afael ag effaith y digwyddiadau hyn ar ein cymunedau lleol.

Yn ei anerchiad i'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2020, rhoddodd yr Arweinydd ymrwymiad i gychwyn mabwysiadu golwg newydd ar sut rydym yn gweithio gyda'n cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghastell-nedd Port Talbot i sicrhau cydraddoldeb, tegwch a chydlyniant cymdeithasol ac i sicrhau newid cymdeithasol i ddangos bod Bywydau Duon yn Bwysig.

Pwysleisiodd hyn yr angen i adolygu ein hamcanion a'n gweithredoedd cydraddoldeb ymhellach, yn enwedig yng ngoleuni'r dystiolaeth a ddarperir i bwyllgorau llywodraeth y DU a rhai cenedlaethol. Yn ogystal â chanfyddiadau ymchwil ar effaith Coronafeirws, y pryderon a adroddwyd gan aelodau o gymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig mewn ymateb uniongyrchol i fudiad Mae Bywydau Duon yn Bwysig a'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu ein hamcanion cydraddoldeb i ddechrau.

Unwaith eto, chwaraeodd y Grŵp Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol, oedd yn allweddol yn natblygiad cychwynnol yr amcanion cydraddoldeb, ran hanfodol yn yr asesiad ac ar y cyd roeddem yn fodlon bod ein hamcanion cydraddoldeb yn adlewyrchiad cywir o'r meysydd hynny sy'n achosi pryder, trallod ac ing i lawer.  Cyhoeddwyd yr amcanion cydraddoldeb yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 ym mis Hydref 2020.

Fodd bynnag, roedd angen adolygu'r camau gweithredu ymhellach a chamau gweithredu amgen i gyflawni'r amcanion yn well. Datblygwyd y rhain gyda chyfraniad ein gweithlu a'n cymunedau, yn fwyaf arbennig ein cymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig, ac mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i nodi camau gweithredu sydd nid yn unig yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau COVID-19 ond hefyd yr anghydraddoldebau ehangach y mae'r cymunedau hyn yn eu hwynebu.  Cyhoeddwyd y camau gweithredu diwygiedig ym mis Ionawr 2021.

Rydym yn parhau i weithio gyda'n gwahanol gymunedau i archwilio a deall profiadau byw pobl yn well ac i drosi'r rhain yn gamau gweithredu perthnasol i'n helpu i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb wrth symud ymlaen.

BAME neu BME?

Yn dilyn digwyddiadau yn haf 2020 roedd yn ymddangos bod trosglwyddiad amlwg i'r defnydd o BAME ar draws adrannau'r llywodraeth, y cyfryngau a'r byd academaidd. Er nad oedd amheuaeth bod bwriad da y tu ôl i hyn o ran darparu terminoleg gyfunol fwy cwmpasog i gymunedau, arweiniodd at orddefnyddio a chamddefnyddio'r term a achosodd ymateb chwyrn gan amrywiol unigolion a chymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Fe wnaethom ni, ynghyd â llawer o gyrff cyhoeddus eraill, fabwysiadu'r derminoleg hon ond hefyd ceisio cofio'r defnydd a fwriadwyd - acronym ar gyfer cymunedau ethnig lleiafrifol, yn hytrach na'i ddefnyddio fel gair/cymuned ynddo'i hun. Roedd Cymdeithas Gymunedol BME CNPT hefyd yn amheus ynghylch defnyddio'r acronym ac fe'n hysbyswyd y byddai'n well ganddynt ddefnyddio BME a lleiafrif ethnig. Mae BAME yn cael ei ystyried yn ddadleuol oherwydd bod pobl yn ei ddefnyddio fel gair yn hytrach nag acronym ee 'menyw BAME,' 'cyfreithiwr BAME,' 'plant BAME ... Byddai BAME yn iawn i'w ddefnyddio pe bai pob gair yn cael ei ysgrifennu allan, ond nid yw pobl yn aml yn gwneud hyn. Dros amser... (mae yna) ... bryder y bydd yn dod yn air nodedig diystyr, gan greu rhwystr ychwanegol i ymgysylltu oherwydd efallai y bydd rhai pobl eisiau ymbellhau oddi wrth y gair hwn'.

O ganlyniad, wrth symud ymlaen byddwn yn dychwelyd i ddefnyddio BME (pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig) neu gymunedau leiafrifoedd ethnig neu'n defnyddio enwau unigol y gymuned leiafrifol ethnig yn ein dogfennaeth.

Enwau strydoedd a henebion yng Nghastell-nedd Port Talbot

Yng ngoleuni'r mudiad BLM, ac mewn ymateb iddo, a'r nifer o weithgareddau gwrth-hiliaeth a gynhaliwyd yn dilyn lladd George Floyd ym mis Mai 2020, cydnabu Arweinydd y Cyngor yn ei ddatganiad i'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2020 fod 'agweddau ac ymddygiadau dwfn yn parhau tuag at bobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig na allant barhau' ac roedd yn 'cymryd y cyfle hwn heddiw i gychwyn mabwysiadu golwg newydd ar sut rydym yn gweithio gyda'n cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghastell-nedd Port Talbot i sicrhau cydraddoldeb, tegwch a chydlyniant cymdeithasol'. Fel rhan o'r alwad hon am weithredu, cynhaliwyd arolwg lleol i nodi enwau strydoedd a henebion yng Nghastell-nedd Port Talbot a oedd â chysylltiadau â'r fasnach gaethweision.

Ar yr un pryd cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau 'i ail-edrych ar y ffordd y mae rhai o'n henebion a'n hadeiladau cyhoeddus yn cael eu gwerthfawrogi ac ystyried yr hyn maen nhw'n ei ddweud amdanon ni, ein cymdeithas heddiw a'n hanes a rennir ... i gynnal archwiliad o henebion a cherfluniau hanesyddol Cymru, ac enwau strydoedd ac adeiladau cyhoeddus, a nodi'r safleoedd a'r enwau hynny sy'n gysylltiedig â hanes cymunedau duon yng Nghymru, ac yn arbennig y fasnach gaethweision'... Yn seiliedig ar ganlyniad y gwaith hwn, byddwn yn symud i ail gam i benderfynu sut y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd a mynd i'r afael â'r pryderon y mae'n tynnu sylw atynt ... (ac) i benderfynu sut y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd a mynd i'r afael â'r pryderon y mae'n eu hamlygu.

Byddwn yn mynd i'r afael â chanfyddiadau'r archwiliadau fel rhan o weithredu cyfrifoldebau'r Cyngor am ddull mwy cyfannol o ymdrin ag arferion coffa hanesyddol yn ogystal ag yn y dyfodol fel y'u nodwyd yn fersiwn derfynol Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru, y'i  rhagwelir yn ystod hydref 2021.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (REAP)

Cynhaliodd Cymdeithas Gymunedol BME (y Gymdeithas) waith ymgysylltu â'r gymuned, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i lywio eu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun gweithredu drafft i ben ar 15 Gorffennaf 2021). 

Gweithiodd y Gymdeithas mewn partneriaeth â'n Tîm Diogelwch Cymunedol a'n Gwasanaeth Dysgwyr Agored i Niwed i gynhyrchu dau arolwg, un wedi'i anelu at oedolion, a'r llall at bobl ifanc. Nod yr ymgysylltiad hwn oedd cael mewnwelediad i brofiadau byw pobl BME yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan ganolbwyntio ar dai, cydlyniant cymunedol, addysg a chyflogaeth.  Cynhyrchodd y ddau arolwg ganlyniadau tebyg mewn perthynas â'r gymuned leol, diogelwch a chynhwysiant cymdeithasol, gydag ymatebwyr yn cytuno bod angen gwneud mwy mewn perthynas ag integreiddio cymdeithasol a digwyddiadau cymunedol.

Nododd ymgysylltu, mewn perthynas ag addysg a chyflawni potensial, fod ysgolion a lleoliadau addysgol lleol yn llwyddo i sicrhau bod pob disgybl yn cael ei drin yn deg, fodd bynnag, gellid gwneud mwy i hyrwyddo diwylliant ac amrywiaeth yn yr ysgol.

O ran y gweithle, roedd hanner yr ymatebwyr yn teimlo nad yw pobl o gymunedau BME yn derbyn cymaint o gyfleoedd i symud ymlaen yn y gweithle a bod llai o gyfleoedd iddynt weithio yn y sector cyhoeddus.

Roedd y canfyddiadau hyn yn rhy hwyr i gael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad o'r camau gweithredu, ond fe'u cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i'w hystyried wrth ddatblygu'r REAP a chânt eu hystyried fel rhan o'n hadolygiad parhaus o berthnasedd a phriodoldeb y camau gweithredu i gwrdd â'n hamcanion cydraddoldeb.

Ein hymateb yn ystod y pandemig

Amlygir peth o'r gwaith allweddol yn y ffeithlun isod, sy'n cynnwys data o'r cyfnod clo cyntaf hyd at 31 Mawrth 2021.

Gwasaneth Diogel a Iach CNPT

  • Cynorthwyodd ein Gwasanaeth Diogel a Iach CNPT 2600+ o breswylwyr
  • 698 o wirfoddolwyr wedi eu cofrestru
  • Mwy na 6000 o alwadau llesiant i breswylwyr
  • 450+ o barseli bwyd wedi'u dosbarthu bob wythnos
  • 400+ o bresgripsiynau wedi'u dosbarthu bob wythnos

Cymorth i Fusnesau

  • £47m mewn grantiau Covid wedi'u talu i fusnesau lleol
  • 2242 o ymholiadau busnes wedi arwain at gynnig cyngor, gwybodaeth neu gymorth ariannol
  • Prynu'n Lleol yn CNPT - 26587 wedi ymweld â'r dudalen we, 290 o fusnesau wedi'u rhestru
  • 88 o glybiau elusennol/chwarae wedi derbyn £10 mil yr un mewn cymorth grant
  • Darparwyd gwerth £45m o grantiau rhyddhad rhag Ardrethi Busnes a £8.9m o ryddhad rhag Ardrethi Busnes y Stryd Fawr

Cymorth i Ddisgyblion

  • 9500 o Chromebooks  300 lliniaduron wedi'u dosbarthu i ddisgyblion ynghyd â 940 o liniaduron i athrawon
  • Rhoddwyd hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd ar TEAMS i fwy na 5000 o ddisgyblion
  • 5213 o ddisgyblion yn hawlio prydau ysgol am ddim a thaliadau gwerth  £3.9 miliwn ers y cyfnod clo cyntaf (tan 31ain Mawrth 2021)
  • 8 hyb wedi cynnig cymorth bob dydd i hyd at 250 o blant
  • 45 mil o orchuddion wyneb wedi'u dosbarthu ymhlith disgyblion ym mis Medi 2020

Cymorth i Staff CNPT

  • Y Cyngor 1af yng Nghymru a Lloegr i gyflwyno polisi "absenoldeb ar gyfer diogelwch" i ddioddefwyr camdrin domestig sy'n gweithio i'r cyngor; gallant gymryd hyd at bum diwrnod o "absenoldeb diogelwch" â chyflog er mwyn cyrchu cymorth
  • Mwy na 700 o liniaduron wedi'u darparu i staff fel y gallant weithio gartref
  • 85 o gyrsiau hyforddi cyflogedigion wedi'u cynnal ar-lein ar gyfer 3809 o weithwyr
  • 800 o aelodau staff CNPT wedi cynnig cymryd rolau gwahanoler mwyn helpu gyda Covid-19

Cefnogaeth arall

  • 470 o swyddi wedi'u creu/diogelu o ganlyniad i gymorth ariannol gan y cyngor
  • £19.4m mewn cymorth Treth Gyngor i 17389 o aelwydydd
  • 113,888 wedi gweld ein gwefan Covid-19
  • Sicrhawyd llety parhaol i 258 o unigolion neu aelwydydd digartref
  • Ychwanegwyd 6.6km o lwybrau beicio hygrych (yn ystof 2019/20 a 2020/21)
  • Staff gofal cartref - 200+ wedi derbyn hyfforddiant Covid a 10,700+ o ymweliadau bob mis â defnyddwyr gwasanaethau
  • 50 o feysydd chwarae wedi'u diogelu rhag Covid

Gweithio gyda Phartneriaid

  • Adeiladwyd ysbyty maes â 340 o welyau dan reolaeth prosiect yn Llandarcy
  • Yr Orendy Margam wedi'i ddefnyddio fel Canolfan Frechu
  • Gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu CNPT wedi cysylltu â 31079 o bobl erbyn 31ain Mawrth 2021

Fforwm Brechu Coronafeirws BAME - ymgyrch dywedwch fwy wrthyf

Sefydlwyd Grŵp Ymgyrch Cyfathrebu COVID Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) i chwalu'r chwedlau, rhoi sicrwydd a chyflwyno'r ffeithiau, er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus am y brechiadau ac i annog pobl i'w cael. Mae ffigurau blaenllaw o'n cymunedau BME lleol yn aelodau o'r grŵp ac yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno'r negeseuon hyn.

Rydym yn cefnogi'r ymgyrch hon a rhoddodd rhai o'n staff o'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig eu cefnogaeth trwy ddarparu tystebau byr, ysgrifenedig, ffotograffau a / neu glipiau fideo byr am y brechu i'w defnyddio ar y we, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau cyfathrebu eraill.

Mae'r ymgyrch Dywedwch Fwy Wrthyf yn parhau.

Imbiwlans

Rhoddwyd un o'n llyfrgelloedd symudol, a oedd wedi dod i ddiwedd ei hoes waith, i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i'w thrawsnewid yn ganolfan frechu symudol. O fewn wythnosau, tynnwyd allan silffoedd llyfrau, desg dderbynfa bren a charped a gosodwyd waliau gwyn clinigol, sinc, goleuadau wedi'u gwella'n sylweddol, oergell ar gyfer brechlynnau; cypyrddau storio diogel ar gyfer symud, lloriau hawdd eu glanhau a llenni i'w rannu'n giwbiclau.

Cadwyd lifft cadair olwyn i gynnal mynediad hawdd a gosodwyd cysylltiad rhyngrwyd diwifr fel y gellir nodi manylion cleifion yn syth i'r gronfa ddata imiwneiddio.

Dyluniwyd yr Imbiwlans, a ddefnyddiwyd gyntaf ar 25 Chwefror 2021 ac y credir ei fod y cyntaf o'i fath yng Nghymru, i gyrraedd pobl sy'n byw mewn cymunedau mwy anghysbell a phobl o grwpiau agored i niwed nad ydynt yn gallu teithio i ganolfannau brechu neu feddygfeydd, naill ai oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth gwael neu faterion symudedd.

Yr Ymgyrch Amser i Newid

Ymunodd y Cyngor ag Addewid Cyflogwyr yr Ymgyrch Amser i Newid Cymru ym mis Medi 2019, sy'n darparu fframwaith i gyflogwyr weithio ynddo i gefnogi cyflogeion â'u hiechyd meddwl. Mae hon yn flaenoriaeth i'r gweithlu, gan fod absenoldeb sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn cyfrif am y nifer uchaf o ddyddiau a gollir oherwydd absenoldeb salwch.

Caiff cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu ei adrodd yn rheolaidd i Grŵp Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol y cyngor a'r Pwyllgor Personél. 

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chyfeirio at gyngor, arweiniad a chefnogaeth, ac yn 2021 recriwtiodd y Cyngor rwydwaith o Hyrwyddwyr o'i weithlu, i helpu gyda'r gwaith o leihau'r stigma sy'n gysylltiedig ag afiechyd meddwl ac annog ein cyflogeion i siarad am eu lles meddyliol.

Cydraddoldebau mewn Cyflogaeth

Adroddir gwybodaeth am Gydraddoldebau mewn Cyflogaeth ar gyfer y cyfnod 2020-2021 i'r Grŵp Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol a'i chyhoeddi tuag at ran olaf 2021-2022. 

Bydd y data ar gyfer y cyfnod o 12 mis rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, neu lle bo hynny'n briodol, cipolwg ar y gweithlu ar 31 Mawrth 2021.

Mae ein hadroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, yn nodi'r gwahaniaeth rhwng cyflog cyfartalog y dynion a'r menywod sy'n gweithio yn y Cyngor yn 2020. Cymerwyd y data cyflog gan weithlu'r Cyngor ar:

31 Mawrth 2019, 3,784 o gyflogeion sy'n cynrychioli 1,277 (33.75%) o ddynion a 2,507 (66.25%) o fenywod

31 Mawrth 2020, 3,630 o gyflogeion sy'n cynrychioli 1,290 (35.5%) o ddynion a 2,340 (64.25%) o fenywod

Nid yw'r data cyflog yn cynnwys cyflogeion achlysurol a holl gyflogeion ysgolion.

Y bwlch cyflog canolrif rhwng y rhywiau (ac eithrio ysgolion) yn 2019 oedd 3.93% tra yn 2020 mae ein bwlch cyflog canolrif rhwng y rhywiau wedi gostwng i 3.44%.

Mae'r bwlch cyflog canolrif rhwng y rhywiau, gan gynnwys a heb gynnwys ysgolion, yn is na bwlch cyflog canolrif cyfartalog rhwng y rhywiau cenedlaethol y DU o 15.5% yn 2020.