Yn ystod y gaeafau sydd i ddod tan 2025, bydd Prosiect y Mawndiroedd Coll yn adfer 250ha o fawndiroedd a oedd wedi’u coedwigo o’r blaen. Mae 150ha o’r mawndiroedd hyn yn rhan o Fferm Wynt Pen y Cymoedd a Chynllun Rheoli Cynefinoedd Vattenfall, ac mae’r gweddill wedi’u rhannu dros dri safle ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Gallwch ddarllen mwy am ein Hardaloedd Adfer Cynefinoedd yma.
Yn ystod cam datblygu’r prosiect, bu ecolegwyr ein prosiect yn cynnal arolygon helaeth i nodi cyflwr presennol ein safleoedd mawndir, gan gynnwys arolygon llystyfiant a thrwch y mawn. Mae’r ardal helaeth hon o orgorsydd cydgysylltiedig yn 6m o ddyfnder mewn mannau, ac oddeutu 2-3m o ddyfnder ar gyfartaledd (sy’n swm sylweddol o garbon organig!).
Treialwyd technegau adfer ar safle prawf ar fferm wynt Pen y Cymoedd yn 2019/2020 a bu’r gwaith hwn yn ddefnyddiol wrth i ni benderfynu ar ein dulliau gweithredu. Gallwn hefyd ddefnyddio’r cyfoeth o brofiad sydd ar gael yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig lle mae prosiectau mawndiroedd eraill yn goresgyn eu heriau unigryw eu hunain. Er bod modd dysgu gwersi pwysig yn sgîl gwaith blaenorol a’r llenyddiaeth wyddonol sy’n bodoli, mae angen rhagor o dystiolaeth ynghylch adfer mawndiroedd wedi’u coedwigo. Bydd canlyniadau’r gwaith adfer o goedwig i gors yn ein prosiect yn llywio arfer gorau o ran adfer mawndiroedd mewn sefyllfaoedd tebyg. Gallwch ddarllen mwy am ein hymrwymiad i wyddoniaeth a gwaith ymchwil yma.
Nod ein gwaith adfer yw creu amodau a fydd yn arwain at godi lefelau trwythiad a dychwelyd y tir i amodau cors led-naturiol yn dilyn hynny. Bydd hyn yn cynnwys cau ffosydd mewn amryw o ffyrdd, megis defnyddio argaeau pren, ond y dull y byddwn yn ei ddefnyddio’n bennaf fydd argaeau mawn, lle byddwn ni’n codi mawn o le addas gerllaw ac yn ei ‘osod’ mewn sianel ddraenio. Dylai’r dechneg hon olygu bod y dŵr yn cael ei ddal yn ôl yn y ffordd fwyaf naturiol. Mae gweithio ar safleoedd oedd wedi’u coedwigo o’r blaen yn creu heriau unigryw a bydd angen defnyddio technegau arbennig i oresgyn y rhain, gan gynnwys gwyrdroi bonion a llyfnhau’r ddaear.
Trwy adfer ein mawndiroedd byddwn ni’n cyfrannu at yr ymrwymiadau i adfer mawndir y Deyrnas Unedig ac yn helpu yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth a gyhoeddwyd gan lywodraethau o amgylch y byd. Bydd yn sicrhau bod ein mawndiroedd gwerthfawr yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well ac yn atal dirywiad pellach yn y cynefinoedd hyn. Byddwn ni hefyd yn dysgu’r ffordd orau o gyflawni’r gwaith hwn ar safleoedd wedi’u coedwigo, gan gyfrannu at ddatblygu arfer gorau ledled Cymru a’r tu hwnt.