Hepgor gwe-lywio

Mawndiroedd

Mae mawndiroedd yn gynefinoedd amrywiol sydd wedi ymffurfio dros filiynau o flynyddoedd, sy’n llawn carbon ac yn cynnal amrywiaeth toreithiog o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.

Byddwch fwy na thebyg yn eu hadnabod yn syml fel ‘corsydd’, ond mae mawndiroedd yn gynefinoedd amrywiol sydd wedi ymffurfio dros filiynau o flynyddoedd, sy’n llawn carbon ac yn cynnal amrywiaeth toreithiog o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.

Maen nhw’n ardaloedd dyfrlawn, y ceir hyd iddynt yn aml yn yr ucheldir, ac maent yn cynnwys haen drwchus o bridd mawn a ffurfiwyd o ddeunydd planhigion sydd wedi pydru’n rhannol a chronni’n araf iawn dros amser. Nid yw’r rhan fwyaf o fawndiroedd yn tyfu mwy na  0.5–1mm y flwyddyn, sy’n golygu y gall gymryd mwy na 1,000 o flynyddoedd i ffurfio 1m o fawn!

Mae rôl allweddol gan figwyn, sef math o fwsogl sy’n adeiladwr corsydd heb ei ail, nid yn unig o ran storio lefelau uchel o garbon mewn pridd mawn wrth iddo ddadfeilio, ond hefyd o ran ei allu i amsugno a storio sawl gwaith ei bwysau o ddŵr. Cyfeiriwyd at y cynefinoedd unigryw hyn fel ‘‘fforestydd glaw’ y Deyrnas Unedig, oherwydd eu bod mor brin ar lefel fyd-eang ac oherwydd y fflora a’r ffawna unigryw maen nhw’n eu cynnal.

Amcangyfrifir bod mawndiroedd yn gorchuddio tua 12% o arwynebedd tir y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae’n 4.3% neu’n 90,000ha. Gorgorsydd yw’r math prinnaf o fawndir ar lefel fyd-eang ond y rhain yw’r math mwyaf toreithiog yn y Deyrnas Unedig. Mae mathau eraill o fawndir yn cynnwys cyforgorsydd yr iseldir a ffeniau. Ardal prosiect y Mawndiroedd Coll yw’r adnodd mawn dwfn cydgysylltiedig o faint sylweddol mwyaf deheuol ar ucheldir Cymru ac mae’n un o’r ardaloedd mwyaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig, ac yn gam bioddaearyddol unigryw yn nosbarthiad cyffredinol gorsgorsydd De Prydain.

Mae mawndiroedd ymhlith yr ecosystemau llawn carbon mwyaf ar y Ddaear, gan eu bod yn storio tua 30% o holl garbon y pridd er eu bod yn gorchuddio 3% yn unig o’r arwynebedd tir byd-eang, ac maen nhw’n prysur dderbyn cydnabyddiaeth haeddiannol am eu cyfraniad o ran lliniaru’r newid yn yr hinsawdd. Amcangyfrifir bod ardal y Mawndiroedd Coll ei hun yn storio hyd at 350,000 o dunelli o garbon, sy’n cyfateb i’r carbon a gaiff ei storio gan 5,291,268 o eginblanhigion coed wedi’u plannu a fu’n tyfu am 10 mlynedd, neu’r allyriadau o gerbyd teithiwr cyfartalog sy’n teithio 794,044,665 o filltiroedd.

Yn anffodus, mae mawndiroedd ledled y Deyrnas Unedig wedi dioddef degawdau o ddirywiad hirdymor, yn bennaf oherwydd ffactorau dynol. Cafodd hyn effaith ar oddeutu 80% o fawndiroedd y Deyrnas Unedig, gan effeithio yn sgîl hynny ar y cynefin a’i allu i gynnig llawer o’i fuddiannau i bobl ac i’r blaned.

Yn syml, mae mawndiroedd sydd wedi dirywio yn rhyddhau carbon yn hytrach na’i storio a byddant yn colli’r gallu i gynnal bywyd gwyllt; helpu i reoli llifogydd mewn modd naturiol; gwella ansawdd dŵr; a lleihau perygl tanau gwyllt. Mae ecosystemau mawndir sy’n iach ac yn gweithio yn gwneud hyn oll a byddan nhw’n parhau i wneud hynny am byth, os gellir eu cadw yn eu cyflwr naturiol. 

Y newyddion da yw bod adfer mawndiroedd yn bendant yn nod cyraeddadwy. Y prif gymhlethdodau yw’r her o gludo’r peiriannau i safleoedd anghysbell. Y dull gweithredu nodweddiadol o sicrhau bod corsydd yn dechrau gweithio unwaith eto yw ‘ail-wlychu’ mawndiroedd, sef cynyddu lefel trwythiad y mawn trwy wahanol ddulliau.

Mae ymdrechion i adfer a diogelu’r adnoddau allweddol hyn ar waith yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac wrth i’r gymuned o wyddonwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau mawndiroedd ehangu ac archwilio’r ffyrdd gorau o gyflawni’r gwaith hwn, nawr yw’r amser i lwyr adfer y nodweddion naturiol hynafol hyn i’w hen ogoniant gwlyb a chorsiog.