Gwisgo Helmed yn Gywir
- Sicrhewch fod yr helmed o'r maint cywir.
- Dylai ffitio'n glyd a bod yn gyffyrddus i'w wisgo.
- Pan fyddwch chi'n ysgwyd neu'n nodio'ch pen dylai'r helmed aros yn ddiogel.
- Dylai ymyl yr helmed eistedd ar y talcen, ychydig uwchben yr aeliau.
- NI ddylid gogwyddo'r helmed yn ôl gan adael y talcen yn agored neu ei dipio mor bell ymlaen mae'n gorchuddio'r llygaid ac yn rhwystro'ch gallu i weld.
- Rhaid peidio â throelli'r strapiau ac ni ddylai fod llac ynddynt.
- Mae'r mwyafrif o strapiau helmet yn ffurfio siâp 'V' ychydig o dan y llabed glust.
- Sicrhewch nad yw'r helmed yn effeithio ar eich gallu i glywed.
- Mae gwrando yn rhan bwysig o ddiogelwch beicio.
- Prynwch helmed sy'n cwrdd ag un o'r safonau hyn yn unig: BS EN 1078, SNELL B95, AS / NZS 2063 ac mae'n dangos y marc CE.