Cerbydlu graeanu'r cyngor yn cael eu henwi ar ôl enwogion lleol
Does dim amheuaeth y bydd dathliadau eleni ychydig yn wahanol i bob un ohonom, felly i ysgafnhau'r awyrgylch, gofynnodd staff o gerbydlu graenu'r gaeaf Cyngor Castell-nedd Port Talbot am helpu i enwi eu loriau cadarn.
Ymysg yr enwau y mae cynghorau eraill wedi meddwl amdanynt ar gyfer eu cerbydau mae Spreaddie Mercury a David Plowie ond ar ôl cael cymorth gan bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfryngau cymdeithasol, penderfynwyd y dylid anrhydeddu rhai o enwogion lleol niferus yr ardal.
Isod ceir rhestr o'r enwau terfynol ar gyfer y pum lori graeanu a ddewiswyd gan yrwyr y lorïau ac aelodau eraill o staff diwyd cerbydlu'r gaeaf.
Maent yn cydnabod y sêr rygbi Justin Tiperic a Gareth Edwards, y gantores roc a anwyd yn Skewen, Bonnie Tyler ynghyd â'r actorion enwog Richard Burton a Michael Sheen.
- Justin Non-sliperic
- Gareth Spreadwards
- Richard Brrrrrton
- Bonnie Tyre
- Michael Gritter Ma-Sheen
Caiff cerbydau graeanu eu henwi'n awr gyda'r enwau sy'n briodol ar gyfer y llwybrau penodol maent yn eu dilyn. Er enghraifft, mae'r llwybr HR2 yn cynnwys Cwmtwrch, sy'n agos i gartref presennol Michael Sheen.
Mae'r cyngor yn ddiolchgar am y cannoedd o awgrymiadau a dderbyniodd gan breswylwyr o bob rhan o Gastell-nedd Port Talbot.
Datblygodd tuedd gyda hyn o'r cynigion niferus, gyda phobl ar draws yr awdurdod lleol yn awgrymu enwau adnabyddus o'r ardal ac o bell.
Dyma rai awgrymiadau na chafodd eu dewis: Kristian Snow'Kleary, Huw Spreadwards, Ma-Grit John, Keith Halen, Leon Gritton, Sharleen Griteri a Sir Snow Farah.