Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol
Y Gronfa Lefelu i Fyny
Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i lefelu i fyny ledled y Deyrnas Unedig i sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl, yn enwedig wrth i ni wella ar ôl pandemig COVID-19.
Bydd y Gronfa Lefelu i fyny gwerth £ 4.8 biliwn yn buddsoddi mewn seilwaith sy'n gwella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.
Am wybodaeth bellach:
Levelling up fund additional documents
Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio
Rhaglen Llywodraeth Cymru gwerth £100 miliwn yw'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio.
Gall awdurdodau lleol, ynghyd â sefydliadau partner, gyflwyno cais am fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer prosiectau sy'n hyrwyddo adfywiad economaidd ac yn hyrwyddo nodau datblygu cynaliadwy ehangach gyda gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar unigolion ac ardaloedd â'r angen mwyaf.
Bydd yn helpu i greu swyddi, gwella sgiliau a chyflogadwyedd, ac yn creu amgylchedd i fusnesau ddatblygu a ffynnu.
Mae'r pedwar awdurdod lleol yn y de-orllewin, Castell-nedd Port Talbot, Dinas a Sir Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cydweithio i gyflawni nodau ac amcanion Cynllun Adfywio Rhanbarthol De-orllewin Cymru.
Cronfa Ffyniant Gyffredin
Nid yw'n glir eto beth bydd yn disodli rhaglenni ariannu'r UE ar ôl Brexit. Mae Llywodraeth y DU yn cynnig cyflwyno Cronfa Ffyniant Gyffredin, er hynny ychydig sy'n hysbys am hyn gan nad yw Llywodraeth y DU wedi amlinellu manylion allweddol am werth y gronfa neu ym mha fodd y bydd yn gweithredu.
Mae'n debygol y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei chynllunio a'i gweinyddu gan Lywodraeth y DU. Cynigir y bydd y gronfa'n cyd-fynd â chytundebau Dinas a Thwf, a strategaethau diwydiannol lleol/rhanbarthol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar bolisi rhanbarthol y dyfodol gan Lywodraeth Cymru a orffennodd ym mis Mawrth 2018. Cynigir y bydd unrhyw ariannu yn y dyfodol yng Nghymru'n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru a ddatblygwyd i gefnogi'r gwaith o gyflwyno gweledigaeth Ffyniant i Bawb LlC.
Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol
Nod Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol yw dod â busnes ac ymchwil gan y DU sy’n arwain y byd ynghyd i wynebu prif heriau diwydiannol a chymdeithasol ein hamser. Mae hon yn rhan o fuddsoddiad £4.7 biliwn y llywodraeth mewn ymchwilio a datblygu dros bedair blynedd.
Wrth fuddsoddi ym musnesau ac ymchwilwyr y DU a’u cefnogi, bydd y gronfa'n sicrhau y bydd ymchwil ac arloesedd wrth wraidd Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth.
Fe’i cyflwynir gan UK Research and Innovation.
Am fwy o wybodaeth:
www.gov.uk/government/collections/industrial-strategy-challenge-fund-joint-research-and-innovation