Diweddariad 15/12/17
Heol Cyfyng – Cau Dros Dro
Bydd Heol Cyfyng yn Ystalyfera ar gau dros dro i draffig am oddeutu pum niwrnod ym mis Ionawr er mwyn ymgymryd â gwaith i dynnu coed uwchben wal gynnal yn ddiogel.
Bydd y Tîm Peirianneg yn ymgymryd â gwaith hanfodol i dynnu coed yn y lleoliad o 15 Ionawr 2018 nes cwblhau'r gwaith – disgwylir i'r gwaith bara pum niwrnod.
Mae'n hanfodol cau'r ffordd dros dro er diogelwch y cyhoedd ac er diogelwch y rhai a fydd yn ymwneud â'r gwaith i dynnu coed ar y safle.
Mae'r gwaith gyda'r coed yn rhan o'r gweithgarwch dwys parhaus yn ardal y tirlithriadau sydd wedi cynnwys astudiaethau tyllau turio a phyllau profi, LiDAR soffistigedig (arolygon a gynorthwyir gan dechnoleg laser trwy ddefnyddio dronau) yn ogystal ag ail-lunio gwaith i asesu amodau dan y ddaear a sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Bydd Heol Cyfyng yn ailagor pan fydd y gwaith tynnu coed wedi'i gwblhau.
Pan fydd y ffordd ar gau dros dro, bydd Heol Cyfyng ar gau o'i chyffordd â Heol Gough i gyfeiriad deheuol am bellter o 1km ar ei hyd cyfan i'r gyffordd â Heol yr Eglwys.
Y llwybr amgen ar gyfer traffig cerbydau yn ystod pum niwrnod y gwaith fydd y rhan nas effeithir arni o Heol y Wern, Stryd Fasnachol, Heol Ynysydarren, yr A4067 (Glan yr Afon) a Heol yr Eglwys.
Ni fydd modd i'r cyhoedd gael mynediad i'r ffordd pan fydd ar gau dros dro.
Gwelwch Map cau Heol Cyfyng dros dro