Rwy'n byw yn agos i'r ardal yr effeithir arni - ydy fy nghartref mewn perygl?
Nid yw'r cyngor yn credu bod cartrefi y tu allan i'r ardal beryglon ddynodedig mewn perygl. Er hynny, mae'r gwaith asesu a wneir ar hyn o bryd yn edrych ar ardal ychydig yn fwy na'r hyn a fapiwyd yn flaenorol ar y Map Parth Peryglon. Bwriad hyn yw casglu cymaint o ddata â phosib i nodi'n glir a yw'r ardal risg o beryglon wedi newid dros amser.
Datblygwyd y Map Risg o Beryglon i gadarnhau maint y risg i eiddo preswyl yn yr ardal.
Mae'r map wedi'i ddiwygio a'i ddiweddaru i sicrhau ei gywirdeb dros y blynyddoedd ac rydym yn parhau i'w ddiweddaru o ystyried digwyddiadau diweddar.