Diweddariad 25/8/17
Yn dilyn ymchwiliadau yn ardal Pant-teg, mae swyddogion yn ymwybodol o nifer o adeiladau gwag ac adfeiliedig sydd wedi derbyn hysbysiadau dymchwel ers hynny; fodd bynnag, nid yw hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i berygl tirlithriad.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Jones, "Mae'r cyngor yn mynd i'r afael â'r broblem adeiladau gwag ac adfeiliedig yn rheolaidd ar draws y fwrdeistref sirol, ond mae'r gweithgarwch monitro tirlithriad yr ydym yn ei roi ar waith yn lleol wedi golygu ein bod bellach yn targedu ein gwaith presennol ar y broblem hon yn ardal ehangach Pant-teg oherwydd perygl difrifol i fywyd.
"Er ei fod yn ddealladwy y gall preswylwyr gysylltu dymchwel yr adeiladau hyn ag unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol y gall y cyngor eu cymryd o ganlyniad i'r peryglon tirlithriad, nid yw cysylltiad o'r math yn bodoli. Mae'r camau gweithredu hyn yn ymwneud â'r ffaith bod y cyngor yn canolbwyntio'n fwyfwy ar iechyd a diogelwch yn yr ardal yn gyffredinol, dim byd arall."
O ganlyniad i'r gwaith dymchwel hwn, cyflwynwyd gorchmynion dymchwel, neu cânt eu cyflwyno yn fuan, ar 11 o adeiladau lleol. Mae'r gorchmynion hyn yn cymryd 28 o ddiwrnodau i ddod i rym wedi iddynt gael eu cyflwyno.
Er bod y cyngor yn fodlon bod yr adeiladau'n wag ar hyn o bryd, yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid rhoi 28 o ddiwrnodau ychwanegol i unrhyw ddeiliaid adael yr adeilad (8 wythnos wedi i'r hysbysiad gael ei gyflwyno). Wedyn mae gan berchnogion 42 o ddiwrnodau arall i ddymchwel yr adeilad (14 o wythnosau wedi i'r hysbysiad gael ei gyflwyno).
Os nad yw'r perchnogion wedi dymchwel yr adeiladau hyn erbyn yr amser hwnnw, mae gan y cyngor yr hawl i ymyrryd a chymryd camau gweithredu uniongyrchol os yw'n angenrheidiol.
Mae wyth o'r un ar ddeg adeilad ar wahân a bydd y cyngor yn gofyn bod perchnogion y ddau adeilad arall yn trwsio'r waliau cydrannol ar ôl i'r adeilad gael eu dymchwel. Mae perchnogion yr adeiladau cyfagos yn ymwybodol o'r hysbysiadau hyn.
Nid oes unrhyw fwriad ar hyn o bryd i ofyn bod naw o'r deg tŷ ar Heol Cyfyng y cyflwynwyd hysbysiadau o wahardd yn cael eu dymchwel. Mae'r degfed tŷ yn y teras yn un y nodwyd ei fod mewn cyflwr adfeiliedig.
Mae'r wasg wedi crybwyll y bydd oddeutu 150 o dai yn yr ardal berygl yn cael eu dymchwel o bosib. Nid oes gan y cyngor unrhyw fwriad ar hyn o bryd i estyn hysbysiadau o ddymchwel i adeiladau nad ydynt wedi'u categoreiddio'n adfeiliedig. Mae'r cyngor yn aros am gyngor gan ein hymgynghorydd a bydd unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol o ganlyniad i'r cyngor hwnnw.