Diweddariad 23/08/2017
Cyhoeddi Cyfarfod Cyhoeddus Tirlithriad Pantteg
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi y cynhelir cyfarfod cyhoeddus ynghylch tirlithriad Pant-teg yn Ystalyfera yn Ysgol Ystalyfera ddydd Iau 7 Medi 2017.
Mae'r cyngor yn gwahodd preswylwyr o Heol Cyfyng, rhai o breswylwyr Godre’r-graig, a phreswylwyr o’r strydoedd amgylchynol yn Ystalyfera, yn ogystal â pherchnogion tir ac eiddo yn yr ardal honno, i ddod i gyfarfod i gael y diweddaraf ar y sefyllfa.
Mae timau ar draws y cyngor yn gweithio ar hyn o bryd i baratoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w rhannu â phreswylwyr, a bydd nifer o gynrychiolwyr yn bresennol yn y cyfarfod, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor, y Cyng.
Rob Jones, ynghyd ag Aelodau a swyddogion eraill Cyngor Castell-nedd Port Talbot.Meddai'r Cyng. Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Rydym yn gwrando ar bryderon preswylwyr, a dyma'r rheswm rydym yn cynnal y cyfarfod cyhoeddus hwn. "Rydym am roi adroddiad mor llawn â phosib i breswylwyr am y sefyllfa hyd yn hyn, ac mae'n bwysig bod yr holl breswylwyr yn yr ardal yn gwybod am y cyfarfod."
Mae'r cyfarfod yn dilyn gosod hysbysiadau ar ddeg eiddo ar Heol Cyfyng o ganlyniad i broblemau hirsefydlog gyda thirlithriadau yn yr ardal. Mae monitro ac ymchwiliadau wedi datgelu bod risg uchel o fwy o dirlithriadau a pherygl i breswylwyr os ydynt yn aros yn y cartrefi hyn.Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio'n uniongyrchol â thrigolion Heol Cyfyng i ddod o hyd i lety amgen addas.
Cynigiwyd llety amgen i deuluoedd ac unigolion, ac maent naill ai wedi symud eisoes neu maent yn y broses o symud. Mae'r ardal ehangach yn cael ei hasesu a'i monitro ymhellach ar hyn o bryd a bydd canlyniadau'r ymchwiliadau hynny'n cael eu hesbonio i'r gymuned leol yn y cyfarfod cyhoeddus.
Gellir cysylltu â'r cyngor am fwy o wybodaeth drwy rif ffôn arbennig (01639) 686288 neu pantteg@npt.gov.uk