Diweddariad 14.08.17
Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch preswylwyr a'n pryder yn awr yw diogelwch preswylwyr y tai yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i'r ddau dirlithriad diweddar.
Nid yw tirlithriadau'n bethau newydd yn y rhan hon o'r fwrdeistref sirol, ac maent yn gysylltiedig â'r ddaeareg leol a'n hanes diwydiannol.
Mae'r cyngor a chynghorau blaenorol wedi monitro'r ardal hon dros lawer o flynyddoedd.
Fel mater o drefn, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn adolygu'r risgiau posib i'w gymunedau a'i wasanaethau trwy'r amser i atal digwyddiadau a allai darfu ar fywyd cymunedol.
Yn dilyn monitro ac archwilio i'r tirlithriadau y tu cefn i 81-96 Heol Cyfyng, rydym yn credu bod risg uchel o dirlithriadau pellach a risg i'r preswylwyr os ydynt yn aros yn y tai hyn.
Nid ar chwarae bach y daethpwyd i'r penderfyniad hwn i ofyn i bobl adael eu cartrefi ar fyr rybudd, ond dyma'r unig gam gweithredu sydd ar gael i'r cyngor sicrhau bod pobl yn ddiogel.
Rhoddwyd cyngor a chefnogaeth i bob preswylydd ac rydym yn gwneud hyn fesul achos. Mae swyddogion y cyngor yn siarad â phreswylwyr i nodi anghenion unigol ac rydym wedi sefydlu rhif ffôn dynodedig fel y gall y preswylwyr sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan hyn barhau i dderbyn cefnogaeth o ran tai, addysg neu faterion eraill.
Er ein bod yn deall bod preswylwyr yn yr ardal gyfagos yn pryderu, rhaid i ni roi sylw ar hyn o bryd i'r teras o ddeg tŷ a'r preswylwyr yn y tai hynny.
Cynhelir asesu a monitro pellach o'r ardal ehangach a bydd canlyniadau'r archwiliadau hynny'n cael eu hesbonio i'r gymuned leol maes o law.
Gall preswylwyr yn yr ardal ffonio'n rhif ffôn dynodedig (01639) 686288 yn ystod oriau swyddfa arferol.
Fel mesur diogelwch byddwn hefyd yn rhoi cyfyngiad pwysau ar waith ar Heol Cyfyng a Heol yr Eglwys.