Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus
Cynllun Llesiant Lleol
Pasiwyd deddf newydd yn 2015 gan Lywodraeth Cymru a elwir Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Noda'r ddeddf bod rhaid sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot ym mis Mai 2016 i ddod â sefydliadau lleol ynghyd ac atgyfnerthu'r ffordd y maent yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwella lles y bobl sy'n byw yn ein bwrdeistref sirol.
Partneriaeth o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol lleol o ar draws yr ardal yw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot sy'n cynnwys:
Partneriaid statudol:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfranogwyr gwahoddedig:
- Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol CNPT
- Heddlu De Cymru
- Tai Tarian
- Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Canolfan Byd Gwaith
- Grŵp Colegau CNPT
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Llywodraeth Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cynghorau Tref a Chymuned
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot yn asesu llesiant y bobl sy’n byw yn yr ardal ac yn cynhyrchu cynllun llesiant bob pum mlynedd. Mae trigolion lleol a phartneriaid o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dod at ei gilydd i ddefnyddio’u gwybodaeth a’u harbenigedd i ddeall Llesiant Economaidd, Cymdeithasol, Amgylcheddol a Diwylliannol Castell-nedd a Phort Talbot er mwyn llywio newid i’r dyfodol.
Asesiad Llesiant Castell-Nedd Port Talbot 2022Nod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw crisialu cryfderau ac asedau Castell-nedd Port Talbot, a’r heriau a’r cyfleoedd rydyn ni’n eu hwynebu yn awr ac yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â materion fel y newid yn yr hinsawdd, tlodi a digartrefedd, gan integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well, sicrhau swyddi i’r dyfodol ac economi lewyrchus, yn ogystal â gwella iechyd ein hamgylchedd naturiol. Rydyn ni am edrych ar yr holl faterion hyn mewn modd mwy integredig a datblygu cynllun a rennir ar gyfer cydweithio i ymdrin â nhw. Bydd hynny’n ein helpu i greu Castell-nedd Port Talbot lle mae pawb ohonon ni eisiau byw, yn awr ac yn y dyfodol.
Llawrlwytho
-
Cynllun Llesiant 2023-28 (PDF 1.95 MB)
m.Id: 35359
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Llesiant 2023-28
mSize: 1.95 MB
mType: pdf
m.Url: /media/18617/neath-port-talbot-wellbeing-plan-welsh-final.pdf -
Cynllun Llesiant ar Dudalen 2023-28 (PDF 252 KB)
m.Id: 35360
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Llesiant ar Dudalen 2023-28
mSize: 252 KB
mType: pdf
m.Url: /media/18618/neath-port-talbot-wellbeing-plan-diagram-welsh-final.pdf -
Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (PDF 340 KB)
m.Id: 35361
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
mSize: 340 KB
mType: pdf
m.Url: /media/18619/ofgc-advice-to-neath-port-talbot-psb-cymraeg.pdf
Gallwch gael mwy o wybodaeth am Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus. E-bost: psb@npt.gov.uk neu ymwelch â www.nptpsb.org.uk