Dogfen
DARE - Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy Castell-nedd Port Talbot - Crynodeb
Y Trilemma Ynni
Yn syml, mae'r trilema ynni yn ymwneud â mynd i'r afael â thair her sy'n aml yn gwrthdaro â'i gilydd:
- Sicrhau diogelwch ynni
- darparu tegwch ynni gyda mynediad at ynni glân fforddiadwy a
- chyflawni cynaliadwyedd amgylcheddol
Mae cydbwyso'r tair blaenoriaeth yma, sydd weithiau'n gwrthdaro â'i gilydd, yn ganolog i'r her a wynebwn. Maent yn darparu'r fframwaith ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd i lywodraethau a busnesau ar draws y byd, ac i DARE.
Beth yw Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy?
Mae datgarboneiddio yn ymwneud â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn benodol carbon deuocsid (CO2). Cyflawnwn y lleihad hwn drwy newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Mae ffynonellau adnewyddadwy ar gael yn gynaliadwy o fewn yr amgylchedd. Maent yn cynnwys yr haul, gwynt a symudiad dŵr. Mae enghreifftiau o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel yn cynnwys ffermydd gwynt, gwres a phŵer cyfun, biomas, pŵer hydro, a thechnoleg solar.
Bydd gofalu'n well am yr amgylchedd naturiol yn chwarae rhan bwysig hefyd. Gall planhigion, pridd a moroedd storio carbon, gan atal ei ryddhad niweidiol i'r atmosffer.
Mae mentrau megis plannu coed, adfer mawndiroedd a gwlyptiroedd a rheoli coetiroedd, yn hanfodol.
Sbardunau Newid
Ers 2010, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sawl cynllun a deddf sy'n gosod y cyd-destun strategol a deddfwriaethol ar gyfer DARE. Mae'n debyg mai Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw'r mwyaf nodedig o'r rhain. Mae'n sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ystyried materion o ran iechyd, defnydd adnoddau, a'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio yn hanfodol i gyflawni amcanion y Ddeddf. O fewn Rhanbarth Dinas Bae Abertawe (SBCR), mae Prosiect Ailfywiogi Cymru (Regen) yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd hyd at 2035. Mae'n mynnu newid sylweddol o ran effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae'n galw am ddatgarboneiddio gwres, chwyldro trafnidiaeth, mwy o gynhyrchiant a pherchnogaeth leol o ynni, a newid i ynni clyfar.
Mae ffocws ar gyflawni'r amcanion hyn fel rhan o weledigaeth economaidd ehangach ar gyfer SBCR yn bosibl o ganlyniad i raglen strategol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Dyma gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, y pedwar awdurdod lleol a'r sector preifat yn y ddinas ranbarth.
Bydd buddsoddiad y Fargen Ddinesig yn trawsnewid yr economi ranbarthol drwy wella sgiliau, masnacheiddio technolegau a syniadau newydd, ac adeiladu arbenigedd mewn technolegau digidol, gwyddor bywyd a llesiant, ynni a gweithgynhyrchu uwch.
Mae Ynni Adnewyddadwy yn thema allweddol o fewn y rhaglen. Bydd yn hyrwyddo'r rhanbarth fel mainc arbrofi ar gyfer arddangos, integreiddio a masnacheiddio Systemau Ynni'r Dyfodol ac yn creu mainc arbrofi ar gyfer darparwyr ynni adnewyddadwy.
Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn arwain ar ddau brosiect Bargen Ddinesig sy'n integreiddio â DARE: Cartrefi sy'n Bwerdai (HAPS) ac Cefnogi Arloesedd a Twf Carbon Isel, rhaglen
o saith prosiect rhyng-gysylltiedig sydd gyda'i gilydd wedi'u dylunio i gyflawni twf economaidd carbon isel, cynaliadwy a chynhwysol ar gyfer y rhanbarth.
Yr Her i Gastell-nedd Port Talbot
Yn ddaearyddol, mae bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot wedi'i nodweddu gan ei hamrywiaeth. Coridor arfordirol yn ymestyn o amgylch Bae Abertawe gyda'r prif ganolfannau poblogaeth, cyflogaeth a'r M4. A chyfres o ddyffrynnoedd afon wedi'u gwahanu gan wastadeddau uchel a mynyddoedd.
Mae'n sylfaen gyflogaeth, gyda diwydiannau trwm hir sefydledig fel Tata Steel. Mae hyn, ynghyd â'r M4 a ffyrdd prifwythiennol pwysig, 62,000 o gartrefi a chymysgedd eang o ddiwydiannau diwydiannol, busnes a chloddiol, yn effeithio ar ansawdd yr aer.
Mae gan Gastell-nedd Port Talbot tua 45% o orchudd coed - bron i dair gwaith y cyfartaledd mewn siroedd eraill. Mae gan y fwrdeistref sirol un o’r adnoddau mawn dwfn ucheldir deheuol mwyaf arwyddocaol yng Nghymru. Golyga hyn bod gan ein hamgylchedd naturiol y potential i fod yn storfa garbon sylweddol. Gellid rhyddhau’r storfa garbon hon drwy arferion rheoli digydymdeimlad a newidiadau i ddefnydd tir. Felly, mae angen gwarchod yr ardaloedd hyn ac, mewn rhai achosion, eu hadfer, yn cynnwys y mawndir uchel sydd wedi dirywio.
Mae gwella ansawdd yr aer yn bwysig hefyd i iechyd a llesiant pobl. Mae Strategaeth Ansawdd Aer y cyngor: 'Airwise - Aer Glân i Bawb', eisoes wedi arwain at welliannau, ond mae rhagor o waith yn ofynnol, a dyma agwedd bwysig ar DARE.
DARE - Y Weledigaeth
Bwrdeistref sirol fwy glân, ffyniannus ac iach.
Ein cenhadaeth
Manteisio i'r eithaf ar fuddion economaidd, cymdeithasol, iechyd ac amgylcheddol datgarboneiddio drwy ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy.
How will we deliver?
- Lleihau'r allyriadau carbon, yn sgil cyflawni rhaglen waith y cyngor. Defnyddio llai o ynni a newid i ffynonellau ynni sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd.
- Goresgyn rhwystrau i ynni adnewyddadwy ac annog y defnydd o adnoddau adnewyddadwy a chynaliadwy.
- Rheoli ein hadnoddau naturiol er mwyn dal a storio carbon i'r eithaf, a chyfyngu ar ryddhau carbon.
- Gweithio â phartneriaid a busnesau, gan rannu arferion da, asedau ac adnoddau.
- Hyrwyddo buddion ynni glanach a lleihau allyriadau i weithwyr y cyngor a phobl Castell-nedd Port Talbot.
- Denu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau perthnasol eraill.
Prosiectau a Mentrau Allweddol
Mae strategaeth DARE yn rhaglen gynhwysfawr o flaenoriaethau, prosiectau a mentrau. Gyda'i gilydd, maent yn cael effaith ar lawer o waith y cyngor.
Mae 3 thema strategol: Trafnidiaeth, Adeiladau a Mannau ac Ymddygiad Dylanwadol.
Thema 1 - Trafnidiaeth
Uwchraddio Fflyd y Cyngor
Bydd rhaglen adnewyddu flynyddol fflyd cerbydau'r cyngor yn canolbwyntio ar symud i gerbydau sy'n fwy glân ac effeithlon o ran ynni. Byddwn yn treialu cerbydau tanwydd amgen newydd ac yn monitro technolegau newydd wrth iddynt gyrraedd y farchnad. Er enghraifft, yn dilyn treialon amrywiol a ddangosodd gostyngiadau mewn MPG, CO2, allyriadau a llygredd sŵn, mae’r cyngor wedi cyflwyno codwyr biniau trydan ar draws y fflyd, allyriadau a llygredd sŵn.
Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan
Mae cyflwyno Cerbydau Trydan yn elfen allweddol wrth helpu'r DU i gyflawni ei thargedau ar gyfer datgarboneiddio a lleihau llygredd aer. Bydd hyn yn arwain at ymchwydd yn y galw am bwyntiau gwefru hygyrch. Bydd y cyngor yn gweithio ag academyddion blaenllaw a phartneriaid o'r diwydiant i gynhyrchu strategaeth gwefru cerbydau trydan effeithiol a thrawiadol, sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Y nod yw creu gorsafoedd gwefru clyfar a'r seilwaith grid sy'n ofynnol i gefnogi technolegau gwefru modern. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan raglen ymchwil ehangach yn cynnwys modelau busnes/economaidd yn y dyfodol ar gyfer gorsafoedd gwefru cerbydau trydan.
Hyb Trafnidiaeth Integredig
Mae'r Hyb Trafnidiaeth Integredig newydd yng Ngorsaf Parcffordd Port Talbot yn dwyn ynghyd dulliau trafnidiaeth amrywiol yn cynnwys gwasanaethau rheilffordd, bws, car, a thacsi. Mae hefyd yn cysylltu ag opsiynau Teithio Llesol megis cerdded a beicio. Mae'n helpu i annog newid mewn dulliau teithio i drafnidiaeth gyhoeddus a gall leihau nifer y teithiau car preifat. Y bwriad yw gwneud y datblygiad ym Mhorth Talbot yn lasbrint ar gyfer hybiau eraill mewn lleoliadau allweddol.
Trwyddedu Tacsi
Bydd y cyngor yn ystyried opsiynau ar gyfer mabwysiadu manyldeb allyriadau isel fel gofyniad yn y dyfodol ar gyfer trwyddedu. Byddai angen cydlynu symudiad o'r fath gyda gwelliannau i ddatblygiad seilwaith gwefru cerbydau trydan, yn cynnwys pwyntiau ar y stryd mewn safleoedd tacsis neu debyg.
Biodanwyddau
Mae'r cyngor yn gweithio â 'Lanzatech' sy'n arbenigo mewn ailddefnyddio nwyon gwastraff o brosesau diwydiannol i alluogi eu trosi yn fiodanwyddau. Mae'r cwmni yn bwriadu cyflwyno prosiect peilot yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n defnyddio nwyon gwastraff o Tata Steel. Disgwylir y bydd y blanhigfa, unwaith y bydd yn gwbl weithredol, yn cynhyrchu 30 miliwn galwyn o fiodanwyddau ar gyfer y diwydiant awyrennau bob blwyddyn.
Thema 2 - Adeiladau a Mannau
Portffolio Adeiladau Gweithredol - Rheoli Ynni/Carbon
Bydd y cyngor yn parhau i leihau'r ynni a'r dŵr a ddefnyddir ac allyriadau carbon ar draws ein hystâd. Mae hyn yn golygu cyfuniad o raglenni gwella ynni a chynlluniau rhesymoli adeiladau. Mae hyn yn debygol o olygu lleihau adeiladau gweithredol yn ogystal â gwella'r defnydd o le. Byddwn yn gwneud y stoc adeiladau presennol mor effeithlon o ran ynni â phosibl, gan osod technolegau adnewyddadwy a charbon isel lle mae hynny'n ymarferol ac yn ddichonadwy. Bydd dylunio sy'n effeithlon o ran ynni, yn amgylcheddol ac yn gynaliadwy yn ystyriaeth allweddol ym mhob prosiect adeiladu newydd ac adnewyddu.
Rhagoriaeth BREEAM
Mae'r cyngor yn cefnogi gofyniad Llywodraeth Cymru i gyflawni safon "Rhagoriaeth BREEAM" ar brosiectau datblygiadau adeiladu mawr a ariennir yn gyhoeddus. Mae'r achrediad hwn yn cwmpasu elfennau fel teithio gwyrdd, perfformiad ynni, inswleiddio, lleihau carbon ac ynni gwyrdd. Er enghraifft, bydd datblygiadau arfaethedig drwy Raglen Strategol Gwella Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn cyflawni safon Rhagoriaeth BREEAM.
Adeiladau Positif o ran Ynni a Chartrefi sy'n Bwerdai.
Mae adeiladau sy'n bositif o ran ynni yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio drwy gynhyrchu ar y safle a thechnolegau carbon isel ac adnewyddadwy. Bydd y rhaglen Cartrefi sy'n Bwerdai (HAPS) a Chanolfan Dechnoleg Bae Abertawe sy'n bositif o ran ynni yn gweithredu fel prosiectau braenaru i brofi'r cysyniad adeiladau positif o ran ynni ar gyfer cartrefi ac adeiladau annomestig. Bydd y cyngor yn arwain ar hyrwyddo a chyflwyno'r prosiect HAPS sy'n anelu at ddarparu cartrefi clyfar, carbon isel, effeithlon o ran ynni drwy ddull cydlynol ar draws y Ddinas Ranbarth.
Bydd Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe yn darparu swyddfeydd hyblyg o safon i gefnogi busnesau newydd a chwmnïau yn cynnwys y rheiny sy'n canolbwyntio ar dechnoleg lân. Bydd ffocws ar arloesi, ymchwil a datblygu. Mae'r datblygiad wedi'i ddylunio i fod yn bositif o ran ynni. Bydd rhaglen ysgogi hydrogen yn cysylltu â'r Ganolfan Hydrogen ym Mharc Ynni Baglan, er mwyn allforio trydan dros ben a chynhyrchu hydrogen i'w ddefnyddio yng ngherbydau'r sector cyhoeddus. Bydd hyn yn gweithredu fel cynllun arddangos braenaru ar gyfer trafnidiaeth allyriadau isel i'r cyngor. Y nod yn y pen draw yw arddangos dichonoldeb a photensial masnachol creu hydrogen o ffynonellau adnewyddadwy.
Prosiect Systemau Ynni Integredig Hyblyg (FLEXIS)
Rhaglen £24.5 miliwn i greu systemau ynni carbon isel y genhedlaeth nesaf yw FLEXIS. Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â thair prifysgol a Tata Steel. Castell-nedd Port Talbot yw'r ganolfan ar gyfer unig ardal arddangos Cymru. Y weledigaeth yw creu canolfan ragoriaeth genedlaethol sy'n darparu technoleg carbon isel, rhaglenni clyfar a chymwysiadau. Bydd yn croesawu ffyrdd arloesol i ddarparu manteision lluosog sy'n diwallu anghenion busnesau a thrigolion Castell-nedd Port Talbot.
Elfen allweddol o fewn y prosiect FLEXIS yw cyflawni Tref Garbon Isel Glyfar. Bydd cyflawni Tref Garbon Isel Glyfar yn gofyn am ddull integredig a chyfunol. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddi data amser real, cymwysiadau technoleg clyfar, technolegau adnewyddadwy a charbon isel, diogelu cyflenwad, iechyd a llesiant, masnacheiddio, codi ymwybyddiaeth, a rhaglen o ddysgu.
Gweddnewidiad Diwydiannol De Cymru o fod yn Ganolbwynt Carbon (SWITCH)
Mae hyn yn ymateb i'r angen i ddatgarboneiddio'r diwydiant dur a metelau, a sicrhau bod y diwydiant yn addas ar gyfer y dyfodol drwy ymchwil a datblygu arloesol. Mewn partneriaeth â'r byd academaidd a'r sector preifat, bydd SWITCH yn cynnal ymchwil i gefnogi'r diwydiant dur a chadwyn gyflenwi i wella cystadleurwydd, adeiladu gallu cynnyrch a lleihau allyriadau carbon.
Goleuadau Stryd
Bydd cyfnod pellach o waith uwchraddio goleuadau stryd yn canolbwyntio ar amnewid bron i 2000 o lampau stryd ynni uwch, a gosod goleuadau LED ynni is yn eu lle. Bydd y cyngor yn manteisio ar gynllun ariannu Salix Llywodraeth Cymru sy'n galluogi trosi i oleuadau sy'n fwy effeithlon o ran ynni.
Datblygu Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel
Mae'r cyngor yn croesawu technolegau adnewyddadwy a charbon isel lle mae hynny'n ymarferol ac yn ddichonadwy. Mae prosiectau penodol yn cynnwys gosod 0.5MW o Solar PV ar doeon mewn nifer o safleoedd gweithredol, gan gynnwys Uned Ddiogel Hillside, Ysgol Gynradd Awel y Môr, Ysgol Bae Baglan, Canolfan Ymwelwyr y Gnoll, Ysgol Ystalyfera, Ysgol Bro Dur ac Ysgol Cwm Brombil. Mae'r cyngor hefyd wrthi ar hyn o bryd yn adnewyddu gosodiad hydrodrydan 30kW ym Mharc Gwledig Margam.
Teithio Llesol a Rhwydweithiau Hawliau Tramwy
Mae'r cyngor yn parhau i flaenoriaethu gwelliannau i'r rhwydwaith Teithio Llesol ar draws y Fwrdeistref Sirol a'r Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC). Bydd hyn yn cynyddu cyfleoedd i wneud teithiau pwrpasol a chael mynediad i gefn gwlad heb ddefnyddio'r car.
Seilwaith Gwyrdd, Gwytnwch Ecosystemau a Bioamrywiaeth
Mae'r cyngor yn blaenoriaethu creu a rheoli Seilwaith Gwyrdd ac ecosystemau ehangach er mwyn dal a storio carbon, ymdrin â llygredd a lliniaru llifogydd, ynghyd â darparu buddion ehangach megis iechyd a llesiant.
Mae system fapio yn seiliedig ar GIS wedi cael ei datblygu i nodi ardaloedd lle mae galw mawr am Seilwaith Gwyrdd, a'r ardaloedd hynny lle mae cyfle i greu neu wella Seilwaith Gwyrdd. Gellir defnyddio'r mapiau i gymryd agwedd strategol tuag at wella Seilwaith Gwyrdd gan sicrhau bod mesurau'n cael eu cymryd yn y lleoliadau priodol.
Mae'r cyngor wedi cael arian i adfer tirwedd mawndir hanesyddol yn yr ardaloedd ucheldir rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf. Nod y 'Prosiect Mawndir Coll' yw adfer dros 540 hectar o dirwedd a chynefin hanesyddol, gan gynnwys corsydd mawn a phyllau, rhostir, glaswelltir a choetir brodorol; a chan fod gorgors yn brin ar draws y byd, bydd y prosiect yn cael effaith bwysig yn rhyngwladol.
Rhaglen Monitro Ansawdd Aer
Dyma brosiect ymchwil cynhwysfawr. Rydym yn creu rhwydwaith o synwyryddion ansawdd aer a fydd yn darparu data lleol, manwl gywir ar lefelau ansawdd aer. Dyma brosiect braenaru gyda'r potensial i'w gyflwyno ar draws y rhanbarth, Cymru, y DU a'r byd.
Thema 3 - Ymddygiad Dylanwadol
Gweithio mewn Partneriaeth
Gan weithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau partner o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, bydd y cyngor yn edrych ar sefydlu a hyrwyddo arferion gorau. Bydd hyn yn cynnwys creu Gweithgor Newid yn yr Hinsawdd.
Ymgyrch Codi Ymwybyddiaeth
Bydd hyrwyddo ymwybyddiaeth o bwysigrwydd allweddol gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac annog newid cadarnhaol yn allweddol. Bydd negeseuon yn cynnwys newidiadau cadarnhaol i ffordd o fyw i leihau ôl-troed carbon personol megis lleihau gwastraff, prynu cynaliadwy, lleihau defnydd o gerbydau preifat neu rannu ceir.
Bydd hefyd yn bwysig annog ffordd o fyw sy'n fwy corfforol egnïol sy'n arwain at fuddion ychwanegol yn nhermau iechyd a llesiant. Bydd annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig hefyd.
Caffael Cynaliadwy
Bydd y cyngor yn mabwysiadu dull 'Caffael Cynaliadwy'. Byddwn yn diwallu ein hanghenion am nwyddau, gwasanaethau a gwaith mewn modd sydd nid yn unig yn cyflawni gwerth am arian, ond hefyd yn sicrhau bod yr effeithiau negyddol posibl ar yr amgylchedd yn cael eu lleihau.
Gweithio Hyblyg
Mae'r cyngor yn cefnogi 'gweithio hyblyg' o fewn y gweithle. Mae'r pandemig wedi dangos potensial technoleg ar gyfer cynnal cyfarfodydd rhithwir a gweithio gartref. Bydd y cyngor yn gallu defnyddio adeiladau yn fwy effeithlon a lleihau gofynion o ran lle. Bydd hefyd yn lleihau'r angen i deithio i, a rhwng gweithleoedd, ac felly yn lleihau ein hôl-troed carbon.
Camau Nesaf
Gan adeiladu ar y strategaeth DARE drosfwaol, byddwn yn paratoi ‘Cynllun Gweithredu Carbon Net Sero 2030’. Mae’n darged uchelgeisiol, ond mae’r cyngor wedi ymrwymo i gynyddu’r ymdrech wrth drechu newid hinsawdd.
Bydd y Cynllun yn ddogfen fyw, yn cael ei hadolygu’n barhaus a’i diweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn polisi neu ddatblygiadau mewn technoleg.
Bydd adolygiadau allweddol ar adegau penodol yn cael eu gosod yn y Cynllun er mwyn monitro cynnydd ac i wirio ein bod ar y trywydd cywir i gyflawni.