Nifer derbyn a maint dosbarthiadau - ysgolion cymunedol
Y nifer derbyn yw nifer y disgyblion y gall y cyngor ei dderbyn i ysgol. Mae gan bob ysgol nifer derbyn a gyfrifir gan ddefnyddio asesiad 'Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru' Llywodraeth Cymru. Ni ellir gwrthod lle mewn ysgol oni bai fod y nifer derbyn wedi'i gyrraedd (atodiad 6).
Mae'n ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth nad yw dosbarthiadau sy'n cynnwys disgyblion y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 5, 6 a 7 oed yn ystod y flwyddyn ysgol yn cynnwys mwy na 30 o ddisgyblion heblaw am 'ddisgyblion eithriedig' fel a nodir gan y Rheoliadau. Y grwp blwyddyn perthnasol yw'r grwp y mae plant a phobl ifanc fel arfer yn cael eu derbyn iddo, h.y. dosbarth derbyn ar gyfer ysgolion cynradd a Bl7 ar gyfer ysgolion uwchradd.