Derbyn i ysgolion cynradd ac uwchradd cymunedol ac ysgolion 'pob oed'
Cyngor y Fwrdeistref Sirol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cynradd ac uwchradd cymunedol a gynhelir ac ysgolion 'pob oed' (gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg a darpariaeth chweched dosbarth).
Cymeradwyir yr holl dderbyniadau i ysgolion prif ffrwd gan y Swyddog Derbyniadau, Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd. Derbynnir plant i ddosbarthiadau derbyn yn y mis Medi sy'n dilyn pedwerydd pen-blwydd y plentyn. Gall rhieni ohirio mynediad i'r dosbarth derbyn tan y tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 5 oed. Mae plant yn trosglwyddo i addysg uwchradd yn y mis Medi sy'n dilyn pen-blwydd y plentyn yn 11 oed.
Mae ffurflen gais ar gael gan Is-adran Derbyniadau Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y dylai'r rhiant ei chwblhau a'i dychwelyd at y Swyddog Derbyniadau, Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot SA13 1PJ neu gall rhieni wneud cais ar-lein yn www.npt.gov.uk. Caniateir ceisiadau am le oni bai y byddai gwneud hynny’n amharu ar ddarparu addysg effeithlon neu ddefnydd effeithlon o adnoddau.
Bydd y rhieni hynny sy’n gwneud cais am le mewn unrhyw ysgol ar amser yn cael blaenoriaeth dros y rheiny sy’n gwneud cais yn hwyr.
Bydd y cyngor yn anfon Ffurflen Cais am Le at rieni pob disgybl a fydd yn symud o'r naill gyfnod addysgol i'r llall ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, yn ystod tymor yr hydref. Caiff rhieni wybod am y lle mewn addysg uwchradd a ddyrannwyd i'w plentyn ar 1 Mawrth 2022 ac am y lle mewn addysg gynradd ar 19 Ebrill 2022.
Nid yw'r ffaith fod plentyn yn mynd i ddosbarth meithrin yn rhoi hawl awtomatig iddo gael lle yn nosbarth derbyn yr un ysgol.
I blant y mae ganddynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n nodi addysgol feithrin brif ffrwd mewn ysgol gymunedol, gwarentir lle iddynt yn yr ysgol honno.
Meini prawf gorymgeisio o ran addysg gynradd
Mae gan rieni'r hawl i fynegi dewis a gaiff ei ystyried yn unigol a chydsynnir â hyn lle bynnag y bo modd. Mae rhai ysgolion yn derbyn mwy o geisiadau am leoedd na nifer y lleoedd sydd ar gael.
Mewn ysgol lle mae gorymgeisio, caiff dewisiadau eu hystyried o hyd ond dilynir y blaenoriaethau a bennwyd gan y cyngor. Wrth benderfynu ar ba blant i dderbyn i ysgol, mae'r cyngor yn defnyddio meini prawf a bennwyd isod yn ôl blaenoriaeth - a) yw'r flaenoriaeth uchaf.
Bydd y cyngor yn derbyn plant hyd at nifer derbyn yr ysgol yn unig ac ni fydd yn torri Rheoliadau Maint Dosbarth Plant sef 30 o blant neu lai, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
a) Plant sy'n derbyn gofal[1] neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn unol ag adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn Lloegr yn unol ag adran 22 Deddf Plant 1989.
b) Plant sy'n byw o fewn dalgylch yr ysgol y cyflwynir cais amdani.
c) Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer hyn a fydd ar gofrestr yr ysgol pan gânt eu derbyn. Diffinnir "brawd neu chwaer" fel brawd neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer (h.y. un rhiant a rennir), llysfrodyr neu lyschwiorydd (h.y. plentyn person sy'n cyd-fyw â'r rhiant), brawd neu chwaer maeth neu a fabwysiadwyd. Ym mhob achos, ar adeg cyflwyno'r cais rhaid i'r brawd neu'r chwaer fyw yn yr un cyfeiriad â'r plentyn neu'r person ifanc. Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. Yn achos genedigaethau lluosog, os nad yw'n bosib cynnig lle i bob plentyn yn y dosbarth meithrin, bydd gofyn i rieni benderfynu pa blentyn a ddylai dderbyn lle'n gyntaf neu a ydynt yn dymuno ystyried lleoliad arall i'w holl blant.
ch) Mae plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol a ffefrir.
Os oes hawl gyfartal gan blant i le mewn ysgol yng nghategorïau -a) i ch) uchod, rhoddir blaenoriaeth i'r plentyn sy'n byw agosaf. Mesurir hyn drwy'r llwybr cerdded/teithio byrraf addas rhwng y cartref a'r ysgol. Mae'r cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol i gyfrifo'r pellter byrraf.
Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer derbyn ceisiadau fydd yn cael eu hystyried yn rownd gyntaf dyrannu lleoedd. Bydd ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr. Caiff y rhain eu hystyried yn wythnosol unwaith bydd y dyraniad cychwynnol wedi'i gwblhau, a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu'n unol ag argaeledd.
Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y disgybl ar adeg gwneud y cais.
Unwaith bydd cynnig o le mewn ysgol wedi'i wneud, bydd y cyngor yn tynnu'r cynnig hwnnw yn ôl pan fydd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol wedi'i wneud gan riant neu berson ifanc (er enghraifft, cais anwir am breswylio mewn dalgylch) sy'n gwadu lle i blentyn neu berson ifanc gyda chais cryfach. Ni fydd lle mewn ysgol yn cael ei dynnu yn ôl unwaith bydd plentyn neu berson ifanc wedi dechrau yn yr ysgol ac eithrio pan fydd lle wedi'i gael drwy dwyll. Wrth benderfynu p'un ai i dynnu lle yn ôl, bydd amser y plentyn hwnnw yn yr ysgol yn cael ei ystyried. Pan fydd lle'n cael ei dynnu yn ôl oherwydd gwybodaeth gamarweiniol, bydd y cais yn cael ei ystyried o'r newydd a hawl i apelio os gwrthodir lle.
Ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw prif breswylfa'r plentyn a'r rhieni ar y dyddiad cyhoeddedig, h.y. lle maent yn byw fel arfer ac yn rheolaidd. Os yw plentyn yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i drefniadau maethu), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried at ddibenion dyrannu lle.
Pan fo rhieni'n rhannu cyfrifoldeb am blentyn, ac mae'r plentyn yn byw gyda'r ddau riant yn eu tro am ran o'r wythnos ysgol, yna ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn byw am y rhan fwyaf o'r wythnos, e.e. 3 o 5 niwrnod. Bydd gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r cyfeiriad y maent am iddo gael ei ystyried at ddibenion dyrannu.
Os yw rhieni'n anfodlon ar ganlyniad y cais am ysgol gymunedol benodol, gellir cyflwyno apêl i'w hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn Annibynnol. Yn achos derbyniadau addysg gynradd, dylid cyflwyno apeliadau erbyn 20 Mai 2022.
Bydd unrhyw benderfyniad gan y panel yn orfodol ar y cyngor. Os nad yw'r apêl yn llwyddiannus, ni chaiff ceisiadau pellach am le yn yr un ysgol eu hystyried ar gyfer yr un flwyddyn academaidd oni bai fod Swyddog Derbyn y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd yn barnu bod newidiadau arwyddocaol a pherthnasol yn amgylchiadau’r disgybl/rhieni neu'r ysgol.
Bydd y cyngor yn cadw rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus wedi’u blaenoriaethu yn ôl meini prawf gorymgeisio'r cyngor. Wrth i leoedd gwag godi, cânt eu cynnig ar sail y rhestr flaenoriaeth. Caiff rhestr aros ei chynnal tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y mae ymgeiswyr yn gwneud cais ynddi.
Er ei fod yn ddarpariaeth polisi ar wahân, mae'r cyngor yn cydnabod y gydberthynas rhwng derbyn a chludiant o'r cartref i'r ysgol, ac yn cynghori rhieni i ddarllen polisi teithio o’r cartref i’r ysgol y cyngor wrth ymgeisio am le mewn ysgol i'w plentyn. Mae'r polisi ar gael yn www.npt.gov.uk
Meini prawf gorymgeisio o ran addysg uwchradd
Mae gan rieni'r hawl i fynegi dewis a gaiff ei ystyried yn unigol a chydsynnir â hyn lle bynnag y bo modd. Mae rhai ysgolion yn derbyn mwy o geisiadau am leoedd na nifer y lleoedd sydd ar gael. Mewn ysgol lle mae gorymgeisio, caiff dewisiadau eu hystyried o hyd ond dilynir y blaenoriaethau a bennwyd gan y cyngor.
Wrth benderfynu ar ba blant i dderbyn i ysgol, mae'r cyngor yn defnyddio meini prawf a bennwyd isod yn ôl blaenoriaeth - a) yw'r flaenoriaeth uchaf.
Bydd yr awdurdod yn derbyn hyd at y nifer derbyn a nodir yn unig.
Gall rhieni/gofalwyr wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Caniateir ceisiadau am le oni bai y byddai gwneud hynny’n amharu ar ddarparu addysg effeithlon neu ddefnydd effeithlon o adnoddau.
Bydd y rhieni hynny sy’n gwneud cais am le mewn unrhyw ysgol ar amser yn cael blaenoriaeth dros y rheiny sy’n gwneud cais yn hwyr.
a) Plant sy'n derbyn gofal* neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn unol ag adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn Lloegr yn unol ag adran 22 Deddf Plant 1989.
b) Plant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgol gynradd bartner sy'n byw o fewn dalgylch yr ysgol y cyflwynir cais amdani.**
c) Plant a phobl ifanc eraill sy'n byw yn nalgylch yr ysgol y cyflwynir cais amdani ond nid ydynt yn mynychu ysgol gynradd bartner.
ch) Plant a phobl ifanc y mae ganddynt frawd neu chwaer hyn a fydd ar gofrestr yr ysgol pan gânt eu derbyn. Diffinnir "brawd neu chwaer" fel brawd neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer (h.y. un rhiant a rennir), llysfrodyr neu lyschwiorydd (h.y. plentyn person sy'n cyd-fyw â'r rhiant), brawd neu chwaer maeth neu a fabwysiadwyd. Ym mhob achos, ar adeg cyflwyno'r cais rhaid i'r brawd neu'r chwaer fyw yn yr un cyfeiriad â'r plentyn neu'r person ifanc. Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. Yn achos genedigaethau lluosog, os nad yw'n bosib cynnig lle i bob plentyn yn y dosbarth meithrin, bydd gofyn i rieni benderfynu pa blentyn a ddylai dderbyn lle'n gyntaf neu a ydynt yn dymuno ystyried lleoliad arall i'w holl blant.
d) Plant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgol gynradd bartner ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol y cyflwynir cais amdani.
Os oes hawl gyfartal gan blant a phobl ifanc i le mewn ysgol yng nghategorïau -a) i d) uchod, rhoddir blaenoriaeth i'r plentyn sy'n byw agosaf. Mesurir hyn drwy'r llwybr cerdded/teithio byrraf addas rhwng y cartref a'r ysgol. Mae'r cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol i gyfrifo'r pellter byrraf.
Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer derbyn ceisiadau fydd yn cael eu hystyried yn rownd gyntaf dyrannu lleoedd. Bydd ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr. Caiff y rhain eu hystyried yn wythnosol unwaith bydd y dyraniad cychwynnol wedi'i gwblhau, a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu'n unol ag argaeledd.
Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y disgybl ar adeg gwneud y cais.
Unwaith bydd cynnig o le mewn ysgol wedi'i wneud, bydd y cyngor yn tynnu'r cynnig hwnnw yn ôl pan fydd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol wedi'i wneud gan riant neu berson ifanc (er enghraifft, cais anwir am breswylio mewn dalgylch) sy'n gwadu lle i blentyn neu berson ifanc gyda chais cryfach. Ni fydd lle mewn ysgol yn cael ei dynnu yn ôl unwaith bydd plentyn neu berson ifanc wedi dechrau yn yr ysgol ac eithrio pan fydd lle wedi'i gael drwy dwyll. Wrth benderfynu p'un ai i dynnu lle yn ôl, bydd amser y plentyn hwnnw yn yr ysgol yn cael ei ystyried. Pan fydd lle'n cael ei dynnu yn ôl oherwydd gwybodaeth gamarweiniol, bydd y cais yn cael ei ystyried o'r newydd a hawl i apelio os gwrthodir lle.
Ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw prif breswylfa'r plentyn a'r rhieni ar y dyddiad cyhoeddedig, h.y. lle maent yn byw fel arfer ac yn rheolaidd. Os yw plentyn yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i drefniadau maethu), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried at ddibenion dyrannu lle.
Pan fo rhieni'n rhannu cyfrifoldeb am blentyn/berson ifanc, ac mae'r plentyn/person ifanc yn byw gyda'r ddau riant yn eu tro am ran o'r wythnos ysgol, yna ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn byw am y rhan fwyaf o'r wythnos, e.e. 3 o 5 niwrnod. Bydd gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r cyfeiriad y maent am iddo gael ei ystyried at ddibenion dyrannu.
Os yw rhieni'n anfodlon â chanlyniad y cais am ysgol gymunedol benodol, gellir cyflwyno apêl i'w hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn Annibynnol. Yn achos derbyniadau addysg uwchradd, dylid cyflwyno apeliadau erbyn 25 Mawrth 2022. Bydd unrhyw benderfyniad gan y Panel yn orfodol ar y cyngor. Os nad yw'r apêl yn llwyddiannus, ni chaiff ceisiadau pellach am le yn yr un ysgol eu hystyried ar gyfer yr un flwyddyn academaidd oni bai fod Swyddog Derbyn y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd yn barnu bod newidiadau arwyddocaol a pherthnasol yn amgylchiadau’r disgybl/rhieni neu'r ysgol. Bydd y cyngor yn cadw rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus wedi’u blaenoriaethu yn ôl meini prawf gorymgeisio'r cyngor. Wrth i leoedd gwag godi, cânt eu cynnig ar sail y rhestr flaenoriaeth. Caiff rhestr aros ei chynnal tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y mae ymgeiswyr yn gwneud cais ynddi.
Er ei fod yn ddarpariaeth polisi ar wahân, mae'r cyngor yn cydnabod y gydberthynas rhwng derbyn a chludiant o'r cartref i'r ysgol, ac yn cynghori rhieni i ddarllen polisi teithio o’r cartref i’r ysgol y cyngor wrth ymgeisio am le mewn ysgol i'w plentyn.
* Plentyn sy'n derbyn gofal yw plentyn y mae'r awdurdod lleol yn gofalu amdano/amdani o dan Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu o dan Adran 22(1) Deddf Plant 1989 ar yr adeg y gwneir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod wedi cadarnhau y bydd yn dal i dderbyn gofal ar yr adeg y caiff ei d(d)erbyn i'r ysgol.