Canolfan Gefnogi Digwyddiad i Drigolion ac Amseroedd Agor
Bydd ein Canolfan Gefnogi Digwyddiad i Drigolion yn Ysgol Gynradd Abbey yn aros ar agor yr wythnos nesaf (dydd Llun 8 i ddydd Gwener 12 Chwefror, 9yb i 5yp) i gynnig help, gwybodaeth a chyngor i breswylwyr lle mae'r llifogydd yn Sgiwen wedi effeithio arnynt.
Yn y Ganolfan, gallwch gael help gyda:
- Cymorth Tai
- Gwasanaethau cymdeithasol – e.e. cymorth lles, cymorth hawliau lles, gwybodaeth, cymorth a chyngor
- Gwybodaeth am ddiogelwch cymunedol
- Gwybodaeth ar sut i wneud eich cartref yn ddiogel rhag tân ynghyd â darparu larymau mwg a charbon monocsid am ddim
- Cwblhau cais am Grant Cymorth Llifogydd Sgiwen
- Cymorth a Chyngor Iechyd yr Amgylchedd
Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles ar yr adeg anodd hon, gallwch hefyd gael gafael ar gymorth ac adnoddau o'r gwefannau a'r sefydliadau isod
- Ar gyfer oedolion: https://www.npt.gov.uk/26557
- Ar gyfer plant a phobl ifanc: https://www.npt.gov.uk/23442
- Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin am rhestr lawn o wasanaethau cymorth: https://www.npt.gov.uk/27177
Os oes angen cymorth arnoch y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch
- 01639 686868 ar gyfer ymholiadau cyffredinol
- 01639 685219 ar gyfer anghenion tai mewn argyfwng
- 01639 895455 ar gyfer Tîm Dyletswydd Brys y Gwasanaethau Cymdeithasol