Arweiniad i Ffïoedd ar gyfer Ceisiadau Llawn i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (CCS)
Cyfrifiannell Ffi CCS
neu dabl 2, ar gyfer ceisiadau a wneir gan gynghorau tref a chymuned.
Mae'r ffïoedd hyn yn berthnasol i geisiadau a wneir o 7 Ionawr 2019 ymlaen.
Mae'r ddogfen hon yn seiliedig ar y canlynol: ‘Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Atodlen 3, Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffïoedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018’.
TCaiff y ffi ei thalu pan gaiff y cais ei gyflwyno. Os nad ydych yn siŵr a yw'r ffi'n berthnasol, ffoniwch eich Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy lleol ar (01639) 686850 neu e-bostiwch: SAB-HDC@npt.gov.uk
Tabl 1
Ffi sefydlog | Ffi ar gyfer y 0.5ha cyntaf | Ffi o 0.5ha hyd at ac yn cynnwys 1ha | Ffi o 1ha hyd at ac yn cynnwys 5ha | Ffi uwchben 5ha |
---|---|---|---|---|
£350 ar gyfer pob cais | £70 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, ar gyfer y 0.5 hectar cyntaf; | £50 for each 0.1 hectare or fraction of 0.1 of a hectare, from 0.5 hectare up to and including 1.0 hectare | £20 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, o 1.0 hectar hyd at ac yn cynnwys 5.0 hectar; a | £10 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar ychwanegol. |
Cyfrifir y swm ychwanegol hyd at £7,500 drwy gyfeirio at faint yr ardal adeiladu
Diffiniad
Diffinnir "ardal adeiladu" fel a ganlyn:
- yr ardal o dir a nodir ar gynllun sy'n cyd-fynd â chais am ganiatâd cynllunio, neu
- os nad yw cais am ganiatâd cynllunio wedi cael ei gyflwyno, yr ardal o dir y mae gwaith adeiladu wedi dechrau arni neu y disgwylir iddo ddechrau arni
Tabl 2
Ffi sefydlog | Ffi ar gyfer y 0.5ha cyntaf | Ffi o 0.5ha hyd at ac yn cynnwys 1ha | Ffi o 1ha hyd at ac yn cynnwys 5ha | Ffi uwchben 5ha |
---|---|---|---|---|
£175 ar gyfer pob cais | £35 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, ar gyfer y 0.5 hectar cyntaf; | £25 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, o 0.5 hectar hyd at ac yn cynnwys 1.0 hectar; | £10 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar, o 1.0 hectar hyd at ac yn cynnwys 5.0 hectar; a | £5 ar gyfer pob 0.1 hectar neu ran o 0.1 hectar ychwanegol. |
Cyfrifir y swm ychwanegol hyd at £7,500 drwy gyfeirio at faint yr ardal adeiladu
Diffiniad
Diffinnir "ardal adeiladu" fel a ganlyn:
- yr ardal o dir a nodir ar gynllun sy'n cyd-fynd â chais am ganiatâd cynllunio, neu
- os nad yw cais am ganiatâd cynllunio wedi cael ei gyflwyno, yr ardal o dir y mae gwaith adeiladu wedi dechrau arni neu y disgwylir iddo ddechrau arni
Tabl 3
Cynigion lluosog ar gyfer yr un safle
Y cynnig sy'n denu'r ffi fwyaf yn unol â Thabl 1
Codir tâl ar bob cynnig ychwanegol yn unol â Thabl 2
Y ffi ar gyfer arolygiad yw £168 (fesul arolygiad fel y cytunwyd arni gyda'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy)
Gellir codi tâl am gais sy'n gysylltiedig â chais blaenorol
- a gyflwynwyd o fewn 12 mis o'r dyddiad y cafodd y cais blaenorol ei gymeradwyo; ac
- sy'n gysylltiedig yn gyfan gwbl neu'n bennaf â'r system ddraenio a oedd yn destun y cais blaenorol, gan gynnwys cynigion adeiladu ac amodau cymeradwyaeth y cais blaenorol.
Codir ffi am gyflwyno cais yn unol â Thabl 2
'Efallai na fydd corff cymeradwyo'n codi tâl lle bydd cais o dan baragraff (2) yn gysylltiedig ag amod cymeradwyaeth y cais blaenorol yn unig, heblaw am amod o dan baragraff 11(2)(a) Atodlen 3.'
Mae Paragraff 11(2)(a) Atodlen 3 yn datgan:
Gall cymeradwyaeth a roddir o dan is-baragraff (1)(a) ddibynnu ar amodau; yn enwedig, gall amod —
- fod yn gysylltiedig ag adeiladu system ddraenio (a all gynnwys addasu'r cynnig ar gyfer adeiladu),
- sicrhau na fydd y gymeradwyaeth yn berthnasol nes i'r ymgeisydd ddarparu bond diffyg perfformiad yn unol â pharagraff 12,
- bod yn gysylltiedig ag arolygiad, neu
- ofyn am dalu ffïoedd y gellir eu codi o dan baragraff 13 drwy gyfeirio at waith a wnaed mewn perthynas â chymeradwyaeth
Arolygiad fel amod cymeradwyaeth
Lle rhoddir cymeradwyaeth sy'n dibynnu ar amod sy'n gofyn am un arolygiad neu fwy o'r gwaith sydd i'w gynnal, codir tâl o £168 yr arolygiad. Cytunir ar nifer yr arolygiadau y mae eu hangen â'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, cyn i unrhyw ganiatâd gael ei roi.