Er bod gan y cyngor ddyletswydd o dan y Ddeddf Tai, a yw'r camau gweithredu hyd yn hyn o ran y deg tŷ yr effeithir arnynt ar Heol Cyfyng wedi bod yn rhy frysiog?
Nid yw'r cyngor yn barod i aros i ddamwain ddigwydd.
Yn seiliedig ar archwiliadau o'r safle, gwybodaeth am y tirlithriad ehangach. geomorffoleg y llethrau i'r dwyrain o Heol Cyfyng a'r gwaith diweddar i fonitro dŵr daear yn dilyn stormydd Doris (mis Chwefror 2017), ystyrir ei bod n debygol y bydd y tir yn symud yn y tymor byr a chanolig, gan ddadsefydlogi'r adeiladau a'r ardaloedd cyfagos o bosib. Oherwydd agosrwydd y diffygion tir hyn i bobl ac eiddo, ystyrir bod risg dybryd i'r rheini (tebygolrwydd uchel, effaith sylweddol).
Dyna pam rydym yn cymryd camau gweithredu rhagweithiol yn hytrach na chamau gweithredu ymatebol.