Pa gamau gweithredu rydych wedi'u cymryd yn dilyn adroddiadau gan ymgynghorwyr gwahanol?
Rydym wedi clirio ac ailbroffilio'r ardal yr oedd tirlithriad 2012 wedi effeithio arni, yn ogystal â chlirio coed a chynnal a chadw draeniau'r briffordd. Rydym wedi canolbwyntio'n hymdrechion ar fonitro'r briffordd, systemau draenio cysylltiedig a waliau cynnal. Rydym hefyd wedi gosod offer monitro'n ddiweddar mewn tyllau turio newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli ar dir y cyngor a thrwy gytundeb â pherchnogion ar beth tir preifat i fesur dŵr daear a symudiadau daear. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal arolygon LiDAR - gwnaed gwaith newydd yn dilyn pob adroddiad newydd a dderbyniom.
Ym 1987 ac 1989, o ganlyniad i adroddiadau ar dirlithriadau Pant-teg a Godre’r-graig a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw gynt, lluniwyd Cynllun Asesu Risgiau a Pheryglon.
Ym 1997, yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, cynhaliodd Castell-nedd Port Talbot ei adolygiad ei hun o ardaloedd y tirlithriadau ac arweiniodd hyn at lunio Map Parth Risg o Beryglon newydd.
Yn dilyn tirlithriad ym mis Rhagfyr 2012, comisiynodd Castell-nedd Port Talbot Jacobs Engineering UK i adolygu a diweddaru'r asesiad risg a oedd yn bodoli o ardaloedd y tirlithriadau. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Ionawr 2014 ac roedd yn cynnwys Map Risg o Beryglon wedi'i ddiweddaru.
Roedd yr adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad ar gyfer mesurau lleihau risg, y cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu rhoi ar waith. Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell asesiad meintiol arall gan gynnwys rhoi systemau ar waith i gofnodi ac asesu cyfraddau symudiad tir.
Yn 2015, comisiynwyd yr ymgynghoriaeth Earth Science Partnership gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gynnal asesiad geodechnegol a chynghorir y cyngor ar ddulliau asesu meintiol a threfn monitro ac asesu addas ar gyfer ardal y tirlithriad.
Roedd yr adroddiad (2016) yn argymell datblygu strategaeth reoli ffurfiol yn seiliedig ar fonitro ac asesu data meintiol yn y tymor hir, megis lefelau dŵr daear a data topograffig o arolygon LiDAR (techneg sy'n defnyddio golau laser i fonitro symudiadau'r ddaear a'r wyneb).
Mae'r argymhellion i ddatblygu strategaeth reoli ffurfiol ar gyfer ardal y tirlithriad yn cael eu rhoi ar waith; er enghraifft, mae tyllau turio wedi'u cloddio ac mae cofnodwyr data'n casglu gwybodaeth hanfodol o'r offer sydd ynddynt ac mae arolwg cyntaf LiDAR wedi'i gwblhau.