Datganiad I'r Wasg
Gwasanaethau a gorymdeithiau Sul y Cofio yn nhrefi Castell-nedd a Phort Talbot
31 Hydref 2024
Bydd gwasanaethau a gorymdeithiau blynyddol Sul y Cofio’n digwydd ym Mhort Talbot a Chastell-nedd ddydd Sul, Tachwedd 10, 2024.
Cynhelir seremonïau cofio mewn lleoliadau amrywiol eraill ledled y fwrdeistref sirol yn ogystal, a’r rheiny wedi’u trefnu gan gynghorau tref a chymuned, a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol.
Dyma fanylion y gwasanaethau a’r gorymdeithiau fydd yn digwydd ym Mhort Talbot a Chastell-nedd ddydd Sul, Tachwedd 10:
Port Talbot –
Bydd y Maer, y Cynghorydd Colin Matthew Crowley, yn mynychu’r orymdaith a’r gwasanaeth ger y Senotaff ym Mharc Coffa Tai-bach.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn o’r tu fas i’r Grand Hotel, Port Talbot, am 10.15am, gan gyrraedd Parc Coffa Talbot am 10.55am. Bydd y Gwasanaeth Cofio a gosod torchau’n dechrau am 11am ac yna cynhelir yr orymdaith yn ôl a’r saliwt gyferbyn â Chlwb y Lleng Prydeinig Brenhinol, gan ddod i ben yn ôl y tu fas i’r Grand Hotel.
Castell-nedd –
Bydd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Wayne Carpenter yn mynychu Gwasanaeth Cofio yn Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd, a fydd yn cychwyn am 9.30am (pawb yn eu seddau erbyn 9.20am).
Wedi’r gwasanaeth, bydd pawb sy’n cymryd rhan yn ymgasglu am 10.35am ar gyfer gorymdeithio ar hyd Stryd Dewi Sant, a bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10.40am er mwyn cyrraedd y Clwydi Coffa ger mynedfa Parc Gwledig Ystâd Gnoll am 10.50am ar gyfer gosod torchau am 11am.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn ymgasglu wedyn ar gyfer gorymdeithio’n ôl i gymryd y saliwt ger y Llwyfan a leolir ger mynedfa Heol Cedrwydd, Castell-nedd am 11.15am.