Cwestiynau Cyffredin
1. A oes angen hyfforddiant hylendid bwyd arnaf a ble gallaf ei gael?
Mae'n rhaid goruchwylio, cyfarwyddo a/neu hyfforddi'r rhai sy'n trin bwyd mewn hylendid bwyd, a hynny'n briodol i'w gweithgareddau gwaith. Yn achlysurol, rydym yn cynnal cyrsiau hylendid bwyd, ond gellir canfod darparwyr hyfforddiant lleol ar y rhyngrwyd.
Mwy o fanylion am hyfforddiant hylendid bwyd a ble gellir ei gael.
2. Sut gallaf gwyno am eitem o fwyd a brynais?
Os ydych wedi prynu bwyd yn y fwrdeistref a all, yn eich barn chi, fod yn anniogel, neu os ydych wedi canfod darn estron - e.e. gwydr, pryfed, yn y bwyd - gallwch ddychwelyd y bwyd i'r man prynu neu gysylltu â'r adran hon.
Mwy o fanylion am sut i wneud cwyn am fwyd.
3. A oes angen i fi gofrestru fy musnes bwyd gyda'r awdurdod lleol?
Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o fangreoedd gael eu cofrestru. Bydd cofrestru yn caniatáu i awdurdodau lleol gadw rhestr gyfoes o'r holl fangreoedd yn yr ardal er mwyn iddynt allu ymweld â hwy pan fydd angen. Ni ellir gwrthod cofrestru ac ni chodir tâl.
Mwy o fanylion am gofrestru a sut i gofrestru.
4. Rwy'n sefydlu busnes bwyd newydd - beth mae'n rhaid i fi ei wneud er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith?
Os ydych yn bwriadu sefydlu busnes newydd, dylech gysylltu â'r adran hon. Bydd angen i chi ystyried y math o fwyd a gaiff ei gynhyrchu neu ei drin a'r offer, y lle a'r cynllun y bydd eu hangen.
Mwy o fanylion am sefydlu busnes newydd.
5. A allaf gynnal fy musnes bwyd o'm cartref?
Gallwch. Er mwyn cael mwy o fanylion, cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Bwyd ar 01639 686868.
6. Pa mor aml mae'n rhaid i swyddogion Iechyd yr Amgylchedd archwilio busnesau bwyd a pha bwerau sydd gan yr archwilwyr?
Mae'n dibynnu ar y risg a berir ganddynt. Rydym yn cydymffurfio â chanllawiau statudol o ran lleiafswm archwiliadau; fodd bynnag, mae gan swyddogion iechyd yr amgylchedd y pwerau i fynd i fangre bwyd a'i harchwilio ar bob adeg resymol heb rybudd.
Mwy o fanylion am archwiliadau hylendid bwyd.
7. Rwy'n meddwl fy mod yn dioddef o wenwyn bwyd - beth dylwn ei wneud?
Gweler: Gwybodaeth fwy manwl am wenwyn bwyd ac organebau penodol
8. Rwy'n meddwl y dylai fy mangre fod yn gymwys i gael sgôr hylendid bwyd - sut rhoddir un o'r rhain?
Rhoddir sgôr hylendid bwyd ar ôl ymweliad heb rybudd i fangre gan archwiliwr, os bydd y fangre yn bodloni safonau penodol a meini prawf y cynllun. Gweler ein tudalen ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i gael mwy o fanylion.